Ar 20 Mawrth 2024, ymrwymodd y Cyngor i adolygu'r llwybrau cerdded ysgol hynny, a fyddai'n cael eu heffeithio gan y polisi o'r Cartref i'r Ysgol yn dychwelyd i bellteroedd statudol LlC o fis Medi 2025.
Mae’r llwybrau cerdded bellach wedi’u hasesu ac mae’r asesiadau wedi’u cynnal yn annibynnol gan sefydliad allanol, gan ddefnyddio’r meini prawf a osodwyd yng Nghanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Asesu Risg Llwybrau Cerdded i’r Ysgol.
Yn unol â Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr ystyrir bod llwybr ar gael os yw’n ddiogel i ddysgwr gerdded ar ei ben ei hun neu, os yw’n briodol i oedran y dysgwr, yng nghwmni oedolyn priodol.
Mae pob llwybr yn cael ei asesu ar y dybiaeth bod disgyblion yn cael eu hebrwng yn ôl yr angen gan berson cyfrifol, ond rhiant sydd i benderfynu a oes angen goruchwyliaeth ar blentyn ar ei daith ai peidio, a chyfrifoldeb y rhiant/gofalwr yw trefnu os na allant wneud hynny eu hunain.
Wrth bennu diogelwch cymharol llwybr cerdded, mae aseswyr yn ystyried y risgiau ffisegol y gallai rhieni/gofalwyr a dysgwyr sy’n hebrwng eu hwynebu ar hyd y llwybr rhwng y cartref a’r ysgol.
Cynhelir asesiadau llwybrau, gan gynnwys ystyried cyfrifiadau traffig, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a data gwrthdrawiadau, ar yr adegau o'r dydd ac ar y dyddiau o'r wythnos y byddai disgwyl i ddysgwyr ddefnyddio llwybrau.
Mae asesiadau wedi eu cynnal ar hyd y prif ffyrdd i ysgolion. Nid yw ffyrdd ymyl dilynol sy'n cysylltu â phrif ffyrdd wedi'u hystyried gan y bernir eu bod eisoes ar gael ac yn cael eu defnyddio'n ddyddiol gan ddysgwyr presennol.
Dylid nodi nad oes angen ystyried y canlynol yn y Canllawiau:
• Topograffi llwybr
• Y tywydd a brofir ar hyd llwybr
• Yr amser mae'n ei gymryd i gerdded llwybr
• Disgyblion yn gorfod cario bagiau neu offer
• Cyllid y rhiant neu ofalwr, cyfyngiadau ar alwedigaeth, oedran, iechyd, neu ymrwymiadau brawd neu chwaer
Yn hyn o beth, y rhiant neu'r gofalwr sy'n parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod eu plentyn yn mynychu'r ysgol.
Rhaid i'r Cyngor fod yn gyson yn y modd y mae'n asesu cymhwysedd ar gyfer cludiant ysgol am ddim, ac felly ystyrir bod yr asesiadau annibynnol yn derfynol.
Bydd unrhyw benderfyniadau a wneir gan Swyddogion y Cyngor ynghylch hawl i gludiant o'r Cartref i'r Ysgol yn seiliedig ar yr asesiadau llwybr annibynnol, yn amodol ar gydymffurfio â'r wybodaeth a gynhwysir yn, ac ar y cyd â Chanllawiau Gweithredu Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru.