Yn aml, rydyn ni'n ystyried mai Cyflwyno Cynlluniau Llawn yw'r dull traddodiadol o wneud cais am Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.
Bydd y dylunydd adeiladu yn llunio cynlluniau manwl a gwybodaeth ategol ar gyfer y cynllun arfaethedig ac yn anfon y rhain aton ni gyda ffurflen gais a'r ffi angenrheidiol. Byddwn ni wedyn yn gwirio'r manylion ac, ar ôl unrhyw ymgynghoriadau a chyfarfodydd gyda'r dylunydd adeiladau, yn rhoi Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.
Gall gwaith ddechrau unrhyw amser ar ôl i'r cais gael ei dderbyn er ei bod hi'n ddoeth aros nes bod y cynllun wedi cael ei archwiliad cychwynnol o dan y Rheoliadau Adeiladu. Fel arfer, mae hyn yn cymryd rhwng pythefnos a thair wythnos. Bydd ein carfan o syrfewyr yn cysylltu â'ch adeiladwr ac yn archwilio'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar y safle. Pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau mewn modd boddhaol, bydd Tystysgrif Cwblhau Rheoliadau Adeiladu yn cael ei rhoi sy'n dangos bod y prosiect wedi cael ei archwilio'n annibynnol a'i fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, cyn belled â bod modd modd ei asesu.
Dychwelyd i'r dudalen flaenorol
Cyflwynwch Gais am Reoliadau Adeiladu
Cais llawn
Er mwyn cwblhau eich cais, bydd angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol.
- Enw, Cyfeiriad (gan gynnwys cod post), E-bost, a Rhif ffôn cyswllt yr Ymgeisydd
- Enw, Cyfeiriad (gan gynnwys cod post), E-bost, a Rhif ffôn cyswllt yr Asiant (os fo'n berthnasol)
- Cyfeiriad Lleoliad y Gwaith Arfaethedig (gan gynnwys cod post).
- Disgrifiad Llawn o'r 'Gwaith Arfaethedig'
Ar gyfer y math yma o gais, bydd gofyn i chi lanlwytho copïau o gynlluniau a gwybodaeth arall yn dangos holl fanylion adeiladu'r gwaith sydd wedi'i gwblhau cyn i chi allu cyflwyno'r cais. Cyn bwrw ymlaen â chais, sicrhewch fod gyda chi'r dogfennau yma wedi'u harbed yn barod i'w lanlwytho.
Ni fydd gofyn i chi dalu ffi wrth gyflwyno cais. Bydd y ffi yn cael ei chyfrifo gan y Garfan Rheoli Adeiladu wedi iddi hi dderbyn eich cais. Bydd aelodau’r garfan yn rhoi gwybod i chi am gyfanswm y ffi sydd angen ei thalu mewn da bryd.
Cyflwynwch Gais am Reoliadau Rheoli Adeiladu
Cyflwynwch Gais am Reoliadau Adeiladu Cynlluniau Llawn ar-lein