Proses Archwilio
Ar y 27ain Chwefror 2014, cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei Restr Daliadau Ddrafft Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) a'i Ddatganiad o Addasiadau i'r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer archwiliad annibynnol.
Penodi Arolygydd
Penodwyd Philip Staddon BSc, DipTP, MBA, MRTPI, yn Arolygydd Annibynnol i gynnal Archwiliad Rhestr Daliadau Ddrafft a Datganiad o Addasiadau’r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Gwrandawiad Archwiliad
Cynhaliwyd y Gwrandawiad Archwiliad ar ddydd Mercher 7fed Mai 2014 yng Nghanolfan Menter y Cymoedd, Parc Hen Lofa'r Navigation, Abercynon, Aberpennar, CF45 4SN.
Cwblhawyd yr Archwiliad mewn un diwrnod. ’Y Rhaglen Gwrandawiad a’r Prif Faterion, Ystyriaethau, a Phroblemau (PDF)
Mae adroddiad yr Arolygydd ar gael yma.
Llyfrgell Archwilio
Mae pob un o'r holl ddogfennau archwilio i'w cael yn y Llyfrgell Archwilio.
Mae'r Llyfrgell hon yn cynnwys y canlynol:
Caiff y Llyfrgell Archwilio ei diweddaru wrth i wybodaeth ychwanegol mewn perthynas âr Archwiliad ddod ar gael.
Y Swyddog Rhaglen
Helen Simmonds yw'r Swyddog Rhaglen a benodwyd i weinyddu'r Archwiliad. Oes gennych ymholiadau mewn perthynas â'r Archwiliad? Croeso i chi'u cyflwyno'n uniongyrchol i'r Swyddog Rhaglen yn:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Canolfan Busnes a Thechnoleg Tredomen,
Parc Busnes Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7FN
Ffôn: 01443 866448