Cefndir
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn Awdurdod Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC). Ers i'r taliadau ASC ddod i rym ar 31 Rhagfyr 2014, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi rhestr Rheoliad 123 ar ei wefan.
Mae Rheoliad 123 yn rhestr sy'n cynnwys prosiectau seilwaith sydd wedi'u hariannu'n llawn neu'n rhannol gan yr ASC.
Newidiadau Arfaethedig
O ganlyniad i benderfyniad a gafodd ei wneud gan y Cabinet ar 23 Hydref 2023, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad 28 diwrnod rhwng 30 Hydref a 26 Tachwedd 2023 mewn perthynas â rhai newidiadau i Restr Rheoliad 123 y Cyngor.
Mae'r newidiadau arfaethedig i restr Rheoliad 123 y Cyngor wedi'u nodi yn y tabl canlyno:
Proposed Changes
Angen o ran Seilwaith | Newid Arfaethedig
| Rheswm dros y newid |
Prosiectau Addysg:
| | |
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol ar dir y Mwyndy / Tonysguboriau |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol ar dir Fferm Trane, Tonyrefail |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol yn Ffynnon Taf |
I'w dileu |
Mae seilwaith wedi'i ariannu'n rhannol gan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol. |
Darpariaeth addysg newydd/ychwanegol ar safle hen waith glo brig i'r gogledd o'r A473, Llanilid |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Prosiectau Trafnidiaeth: |
|
|
Darparu ffordd liniaru’r A473/A4119 o Donysguboriau i Ynysmaerdy |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Cylchfan yr A4119 / A4093, Tonyrefail - cyffordd â signalau a gwelliannau teithio llesol |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Ffordd osgoi Llanharan |
Diwygio'r Disgrifiad i:Ffordd Gyswllt Llanharan |
Dd/B |
Mynedfa Cwm Cynon (Yr A465) |
Diwygio'r Disgrifiad i:Porth Gogledd Cwm Cynon |
Dd/B |
Creu ffordd ddeuol ar ffordd gyswllt De Coed-elái – gwella'r A4119 rhwng Tonysguboriau a Choed-elái i safon ffordd ddeuol |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Yr A4119 Castell-y-mynach – cyffordd â signalau |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Llwybr Cymuned Llanharan - Adeiladu llwybrau teithio llesol newydd |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Ystad Ddiwydiannol Trefforest - Adeiladu llwybrau teithio llesol newydd |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Ystad Ddiwydiannol Trefforest - Gorsaf reilffordd newydd |
Aros fel y mae |
Dd/B |
Aberdâr i Hirwaun - ehangu gwasanaethau i deithwyr ar y rheilffordd |
Aros fel y mae |
Dd/B
|
Yr A473 rhwng cylchfan Ton-teg a chylchfan Glan-bad |
Aros fel y mae |
Dd/B
|
Manylion yr Ymgynghoriad
Gellir cyflwyno ymatebion i'r ymgynghoriad hwn drwy'r post neu e-bost rhwng 30 Hydref a 26 Tachwedd 2023.
Drwy'r post:
Tîm Gorfodaeth
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU
Anfonwch atebion drwy e-bost at: asc@rctcbc.gov.uk
Diogelu Data
Bydd staff y Cyngor yn gweld manylion unrhyw ymateb sy'n cael ei gyflwyno ac sy'n ymwneud â'r materion sydd dan sylw yn yr ymgynghoriad yma. Mae'n bosib y bydd staff y Cyngor yn defnyddio'r ymateb er mwyn helpu gyda gwaith paratoi ymgynghoriadau yn y dyfodol. Mae'n bosib y bydd y Cyngor yn penderfynu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yma. Efallai y byddwn ni hefyd yn cyhoeddi sylwadau yn llawn. Fel arfer, rydyn ni'n cyhoeddi enw'r person ac/neu'r sefydliad a anfonodd y sylwadau. Mae hyn yn ein helpu ni i ddangos ein bod wedi cynnal yr ymgynghoriad yn y modd cywir. Os dydych chi ddim eisiau i ni gyhoeddi'ch enw, nodwch hyn yn ysgrifenedig wrth gyflwyno'ch sylwadau. Mae'n bosib y bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yma'n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar gael i'r cyhoedd ar ffurf dogfen gyhoeddus yn Swyddfeydd y Cyngor.
Os oes gennych chi gwestiynau ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig i Restr Rheoliad 123, ffoniwch Leanne Lott ar 01443 281128.