Skip to main content

Diweddaraf ar Ymchwiliadau

Nadroedd Defaid

Mae Ecolegydd y Cyngor wedi bod yn ymweld â'r safle i weld cynnydd y gwaith clirio llystyfiant, dymchwel waliau a dechrau'r gwaith clirio'r safle. Mae hyn am eu bod nhw'n ymwneud â gwaith lliniaru ymlusgiaid angenrheidiol mewn perthynas â'r amod cynllunio sydd wedi'i gymeradwyo.

O ganlyniad i hyn, mae Ecolegydd y Cyngor wedi derbyn e-bost yn nodi diweddariad cynnydd gan Heidelberg Materials (mae cyfrif e-bost Craig yr Hesg RhCT a chydweithwyr wedi derbyn yr un e-bost hefyd). Yn seiliedig ar ei ymweliad â'r safle a'r e-bost yn nodi diweddariad cynnydd, mae'n hyderus bod y mesurau lliniaru ymlusgiaid a oedd wedi'u cymeradwyo yn unol â'r amod cynllunio wedi'u rhoi ar waith mewn modd addas, ond byddwn ni'n parhau i fonitro lles y nadroedd defaid (a rhywogaethau eraill) drwy gydol y datblygiad.

Statws: achos ar gau Awst 2024.

Bwndiau

Rydyn ni'n ymwybodol bod gwaith adeiladu'r bwndiau ger ffin y safle wedi bod yn peri pryder i drigolion. Rydyn ni'n ymchwilio i'r mater yma ar hyn o bryd. Mae pryder wedi'i fynegi hefyd bod deunydd o'r chwarel bresennol wedi'i ddefnyddio er mwyn adeiladu'r bwndiau. Fodd bynnag, yn dilyn archwiliad, rydyn ni wedi canfod bod hyn yn cydymffurfio â thelerau'r caniatâd a gafodd ei gymeradwyo.

Mae Heidelberg Materials wedi rhoi gwybod y bydd gwaith adeiladu'r bwndiau yn golygu bod mynediad i'r tir cyfagos wedi'i gyfyngu am oddeutu pedair wythnos.

Statws: Yn agored.  Gwiriadau i'w cynnal unwaith y bydd y byndiau wedi'u hadeiladu.

Wal Cerrig Sych yn Heol Darren Ddu.

Yn dilyn tywydd garw diweddar, derbyniwyd nifer o gwynion ynghylch sefydlogrwydd strwythurol y wal gerrig sych sy'n rhedeg ochr yn ochr â Ffordd Darren Ddu. 

Yn dilyn archwiliad safle, mae swyddogion o Wasanaeth Rheoli Adeiladu'r Cyngor wedi dweud nad yw'r wal yn cael ei hystyried yn "strwythur peryglus".

Statws: achos ar gau Mawrth 2025.

Seilwaith Draenio Dŵr Wyneb ar hyd Heol Berw wedi'i fapio
Mae'r awdurdod wedi cynnal arolygon yn ddiweddar i fapio a chofnodi'r seilwaith draenio dŵr wyneb yn ardal Heol Berw ger y ffordd fynediad i Chwarel Craig yr Hesg a'r ardal gyfagos. Mae'r cynllun sydd wedi'i atodi yn dangos diagram cynllunio syml o'r seilwaith draenio wedi'i fapio.

Ddydd Iau 1 Mai 2025, bydd y Cyngor cychwyn ar arolwg archwilio draenio o'r isadeiledd draenio dŵr wyneb sy'n gysylltiedig â chae Rygbi Glyncoch. Nod y gwaith yw canfod cyflwr strwythurol a gwasanaethadwy yr isadeiledd draenio a'i gysylltedd. Bydd y gwaith yn cynnwys contractwyr arbenigol gydag 'Uned Ailgylchu' a 'Charfan Camera' ac 'Uned Rîl o Bell'.  

Bwriedir i'r gwaith gael yr effaith leiaf posibl ar y cae chwarae, bydd yr holl offer peiriannau trwm angenrheidiol yn cael ei weithredu o'r ardaloedd caled, gyda mynediad lleiaf posibl i'r cae yn cael ei hwyluso trwy 'Rîl o Bell' wedi'i dracio a fydd yn cael ei gefnogi â 'matiau amddiffyn tir' i ddiogelu wyneb y cae.  

Sut i roi gwybod am doriad cynllunio?

II roi gwybod am achos o fethu cydymffurfio â chaniatâd cynllunio, ewch i: