Skip to main content

Cynllunio Materion Gorfodi

Weithiau, bydd datblygiad newydd yn cael ei adeiladu neu bydd defnydd darn o dir yn newid heb ganiatâd cynllunio.

Mae'n bosibl i ddatblygiad gael ei adeiladu mewn ffordd nad yw'n dilyn cynlluniau ac amodau sydd wedi'u caniatáu. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae modd i ni sicrhau bod y sefyllfaoedd yma'n cael eu cywiro.

Sut rydw i'n cwyno?

Os ydych chi'n meddwl bod problem, mae modd i chi roi gwybod i ni drwy ddefnyddio'r ffurflen isod:

Y manylion sydd eu hangen arnon ni yw:

  • Union leoliad y safle
  • Beth sydd wedi digwydd ar y tir a phryd dechreuodd hyn?
  • Enw a chyfeiriad unrhyw bersonau dan sylw (os yw'n hysbys)
  • Union natur eich pryder (e.e. arwydd o unrhyw niwed wedi'i achosi)

Bydd eich cwyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol a fydd eich enw chi ddim yn cael ei ddatgelu.

Rhoi gwybod am bryder ynghylch datblygiad
Os oes angen gweithredu ymhellach, bydd unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth bydd modd i chi ei rhannu i gefnogi'r achos yn hynod bwysig. Serch hynny, mae hyn yn wirfoddol

Fel arall, mae modd i chi ofyn am gyngor wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost neu'n ysgrifenedig. Rhowch gymaint o fanylion â phosib am union natur eich pryderon.

Materion does dim modd eu gorfodi.

Dyma rai enghreifftiau o faterion dydy'r Adran Orfodi ddim yn gallu ymdrin â nhw:

  • Materion yn ymwneud ag allyriadau sŵn, arogleuon, llwch a llygredd amgylcheddol arall yn unig, oni bai ei fod yn ymwneud â thorri rheolaeth gynllunio.
  • Rhwystro unrhyw ffordd neu hawl tramwy.
  • Problemau parcio ar stryd.
  • Anghydfodau Deddf Waliau Cydrannol.
  • Materion yn ymwneud â hawliau mynediad preifat ac anghydfodau rhwng cymdogion ac anghydfodau am ffiniau. Materion cyfraith sifil yw'r rhain, a dylid gofyn i gyfreithiwr am gyngor.
  • Materion yn ymwneud â'r cyfyngiadau wedi'u gosod ar eiddo gan gyfamod. Fel yr uchod, dyma fater cyfraith sifil, a dylid gofyn i gyfreithiwr am gyngor.

Pa gamau gaiff eu cymryd?

Bydd archwiliad yn cael ei gynnal a byddwn yn casglu cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn sefydlu'r ffeithiau.

Os oes problem, mae yna nifer o opsiynau:

  • Byddwn ni'n ceisio trafod gyda'r perchennog / deiliad i ddatrys y broblem yn anffurfiol.
  • Mae'n bosibl i ni ofyn i'r perchennog / deiliad i gyflwyno cais cynllunio pan fyddwn yn meddwl ei fod yn debygol i'r cais cynllunio gael ei ganiatáu.
  • Mae'n bosibl y penderfynwn ni beidio â chymryd unrhyw gamau pellach, er enghraifft, os yw'n broblem fach neu'n broblem dechnegol nad yw'n achosi niwed.
  • Mae'n bosibl y gwnawn ni gymryd camau ffurfiol os bydd y broblem yn un ddifrifol, ac os ydy trafod yn amhriodol neu wedi methu.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad a'r rheswm tu ôl i hynny.

Faint yw hyd y broses orfodi?

Byddwn ni'n cydnabod eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith. Serch hynny, does dim amserlen benodol ar gyfer ymchwilio i dorri rheolaeth gynllunio.  Rhaid dilyn gweithdrefnau statudol ac felly bydd yr amser sydd ei angen i ymchwilio i gŵyn yn amrywio o achos i achos. 

Carfan Gorfodi

Cynllunio - Materion Gorfodi

Tŷ Sardis
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: (01443) 281127