Skip to main content

Cynllun Rheoli a Monitro Llwch

Er eglurder cafodd samplau eu casglu o’r lleoliadau canlynol:

Rhif Sampl Socotec

Lleoliad Monitro

Lleoliad

1

D1A

Ar y safle; ymyl dwyreiniol yr Estyniad Gorllewinol Cyfnod 1

4

D4

Ar y safle; ymyl deheuol yr Estyniad Gorllewinol

5

D5

Oddi ar y safle; Ysgol Gynradd Cefn

6

D6

Oddi ar y safle; gardd Cefn Lee

Adroddiad FD/23206, 8 hyd at 14 Tach:

  • Yn cynnwys samplau wedi'u casglu o bob lleoliad monitro;
  • Yn cwmpasu'r cyfnod gwaith paratoi (sef ar ôl dechrau cael gwared ar haenau pridd ac adeiladu bwnd);
  • Roedd lefelau dyddodi llwch yn Lleoliad D4 (lleoliad sydd yn erbyn y gwynt (upwind), ar y safle) a Lleoliad D1A (lleoliad sydd gyda'r gwynt (downwind), ar y safle) o fewn yr amrediadau gafodd eu cofnodi yn ystod y samplu gwaelodlin ar 63 mg/m2/ dydd a 59 mg/m2/dydd yn y drefn honno. Mae'r ddau ymhell islaw'r trothwy o 200 mg/m2/dydd;
  • Roedd lefelau dyddodi llwch yn Lleoliad D5 a Lleoliad D6 (lleoliadau oddi ar y safle) ill dau yn llawer is na’r trothwy o 200 mg/m2/ dydd ar 13 mg/m2/ dydd ac 8 mg/m2/dydd yn y drefn honno;
  • Roedd % canlyniadau Yr Hyn a Ddisgynnodd ar Yr Ardal Effaith (HDAE)/dydd yn llawer is na'r trothwy HDAE/dydd o 0.5% ym mhob sector yn Lleoliadau D1A, D5, a D6.
  • Roedd % HDAE/dydd yn uwch na'r trothwy HDAE 0.5% yn sectorau'r gogledd-ddwyrain a'r dwyrain yn Lleoliad D4, sydd yn erbyn y gwynt, ar y safle, ar 1.2% a 0.8% HDAE/dydd yn y drefn honno. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn digwydd ar yr un pryd â dyddodi uwch o ran llwch; roedd yn isel ar 63 mg/m3/dydd.

Crynodeb

Roedd lefelau dyddodi llwch yn is na'r trothwy o 200 mg/m2/dydd ym mhob lleoliad gyda lefelau yn y lleoliadau oddi ar y safle, a oedd yn gynrychioladol o dderbynyddion, ymhell islaw'r trothwyon. Cafodd % HDAE uwch ei gofnodi mewn dau sector yn D4. Fodd bynnag, mae hwn yn lleoliad sydd yn erbyn y gwynt o fewn ffiniau'r safle ac nid yw'n gynrychioliadol o'r derbynyddion. Nid oedd y % HDAE uwch yn cyd-ddigwydd â dyddodi uwch o ran llwch yn y lleoliad yma.

Y rownd yma o fonitro yw'r monitro wythnosol olaf yn ystod y gwaith symud haenau pridd ac adeiladu bwnd. Bydd adroddiad yn cael ei greu. Ynddo bydd y canlyniadau gafodd eu cofnodi dros y cyfnod yma o symud haenau pridd ac adeiladu bwnd, yn eu cyfanrwydd, wedi'u casglu ynghyd.

Erbyn hyn mae monitro'n digwydd yn fisol drachefn, a bydd creu adroddiadau nawr yn digwydd ar sail cyfnodau nad ydyn nhw'n hwy na thri mis, yn unol â'r hyn sydd yn y Cynllun Rheoli a Monitro Llwch, sydd wedi'i gymeradwyo.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynghylch yr uchod, mae croeso i chi gysylltu â mi.