Mae’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn ddogfen defnydd tir sy’n amlinellu sut y bydd y Fwrdeistref Sirol yn cael ei datblygu dros 15 mlynedd. Bydd rhai ardaloedd yn cael eu defnyddio ar gyfer datblygiadau newydd tra bydd ardaloedd eraill yn cael eu diogelu. Bydd y CDLl hefyd yn cynnwys polisïau manwl a fydd yn rheoli ffurf datblygiadau newydd ac yn amlinellu sut y bydd y datblygiadau newydd yn edrych.
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn wahanol iawn i systemau cynlluniau datblygu’r gorffennol. Mae gwahaniaethau allweddol sy’n cynnwys rhagor o bwyslais ar ddod â’r gymuned yn rhan o bethau, datblygu polisïau lleol a gofalu paratoi cynllun cadarn.
Bydd y CDLl ar waith am 15 mlynedd, o 2006 hyd at 2021 a bydd yn darparu’r sylfaen ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio.
Arolygu’r CDLl
Yn rhan o broses paratoi’r CDLl, roedd y CDLl Drafft wedi’i Adneuo yn destun arolygu annibynnol gan Arolygydd Cynllunio a gafodd ei benodi gan Weinidogion Cymru. Cyflwynodd y Cyngor y Cynllun ar gyfer ei arolygu ar 28 Ionawr 2010. Cafodd y gwrandawiadau arolygu eu cynnal rhwng 11 Mai a 16 Medi 2010. Daeth adroddiad yr Arolygydd, dyddiedig 7 Chwefror 2011, i’r casgliad bod y CDLl yn gadarn (gyda’i addasiadau argymelledig). Gweld adroddiad yr Arolygydd.
Mabwysiadu’r CDLl
Ar yr 2il o Fawrth 2011, penderfynodd y Cyngor fabwysiadu ‘Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf’ (CDLl). Bellach, mae’r CDLl mewn grym ac yn disodli cynlluniau datblygu blaenorol a oedd wedi’u cymeradwyo neu’u mabwysiadu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf neu’i ragflaenwyr o ran awdurdodau.
Mae copïau o’r Cynllun Datblygu Lleol (hyd at 2021) a fabwysiadwyd gan Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; Adroddiad ar yr Ymchwiliad i Gynllun Datblygu Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hyd at 2021; Adroddiad Arfarnu ar faterion Cynaliadwyedd (gan gynnwys yr Adroddiad Amgylcheddol); Adroddiad Ymgynghori a’r Datganiad Mabwysiadu i gyd ar gael i’w gweld yn rhad ac am ddim yn Swyddfeydd y Cyngor yn Heol Sardis, Pontypridd ac ymhob Llyfrgell Gyhoeddus a Chanolfannau I Bob Un o fewn y Fwrdeistref Sirol yn ystod eu horiau agor. Gallwch eu gweld yn Sylfaen Tystiolaeth y Cyngor yn ogystal â hyn.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r Garfan Materion Cynllunio Datblygu.
Materion Ffyniant a Datblygu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
2 Llys Cadwyn,
Pontypridd,
CF37 4TH
Ffôn: 01443 281129