Skip to main content

Beth yw'r Cynllun Datblygu Lleol?

Cafodd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Rhondda Cynon Taf 2006-2021 ei fabwysiadu ar 2 Mawrth 2011. Bydd y ddogfen hon yn rhoi canllawiau ynglŷn â materion datblygu ledled y Fwrdeistref Sirol tan 2021. Mae'r cynllun yn cynnwys manylion ynghylch tai newydd, safleoedd cyflogaeth a manwerthu, yn ogystal â pholisïau a fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Er mwyn darparu rhagor o wybodaeth ynghylch rhai o'r polisïau a'r pynciau sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol, mae'r Cyngor wedi paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol. Mae'r dogfennau hyn yn ystyriaeth o bwys yn y broses ceisiadau cynllunio a da o beth fyddai troi at y dogfennau hyn cyn ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio. 

Dylai polisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol gael eu seilio ar asesiad manwl o anghenion, cyfleoedd a chyfyngiadau'r fwrdeistref Sirol. Mae'n ofynnol bod Awdurdodau Lleol yn paratoi a chadw cronfa wybodaeth o holl nodweddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol diweddaraf eu hardal er mwyn ffurfio cynllun datblygu 'sefydlog'. Caiff y gronfa wybodaeth ei hadnabod fel sylfaen dystiolaeth y Cyngor. Yn ogystal â hyn, mae gan y Cyngor lyfrgell Cynllun Datblygu Lleol lle y gellir dod o hyd i'r dogfennau Lleol, Cenedlaethol a Rhanbarthol sydd wedi dylanwadu ar y cynllun.

Mae adolygu a monitro’n elfennau allweddol o ffordd Llywodraeth Cymru o fynd ati gyda’r system gynllunio. Er mwyn asesu effeithiolrwydd y Strategaeth Graidd a’i pholisïau bydd rhaid i’r CDLl gymryd rhan mewn proses monitro’n flynyddol. Bydd y gwaith monitro’n galluogi’r Cyngor ac eraill i asesu effeithiolrwydd y Strategaeth Graidd a’i pholisïau wrth hyrwyddo neu gyfyngu defnydd o fathau amrywiol o dir a darparu datblygiad.

Yn rhan o'r fframwaith monitro, bydd y Cyngor yn paratoi Adroddiad Monitro Blynyddol. Bydd yr Adroddiad yn darparu mecanwaith ar gyfer adrodd data sydd wedi'i gasglu fel rhan o'r ymarfer monitro ac asesu effeithiolrwydd y CDLl.

Bydd ymgynghoriadau yn y dyfodol ynghylch y Cynllun Datblygu Lleol a dogfennau ategol yn cael eu cyhoeddi ar dudalen ymgynghoriadau'r Cyngor. 

Hoffech chi ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r pynciau uchod? Croeso ichi gysylltu â'r Garfan Cynllunio Datblygu:

Carfan Cynllunio Datblygu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,

2 Llys Cadwyn,

Pontypridd,

CF37 4TH