Skip to main content

Chwiliad pridiannau tir lleol yn bersonol

Mae modd i unrhyw un sy'n dymuno gwneud chwiliad personol ar gofrestr Pridiannau’r Tir lleol.

Cyfrifoldeb y person sy'n cynnal y chwiliad personol yw nodi'r tir/eiddo a gwneud nodyn o'r wybodaeth sydd ar y gofrestr.

Mae modd i unrhyw un wneud chwiliad personol ar y Gofrestr Pridiannau’r Tir Lleol. Mae'r Cyngor yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • enw'r person neu enw'r cwmni sy'n gwneud y chwiliad personol
  • cyfeiriad/darn o dir sy'n rhan o'r chwiliad personol

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n gweithredu cynllun sy'n galw am hysbysiad o leiaf 48 awr ymlaen llaw i gynnal chwiliad personol. Rhaid derbyn cynllun 48 awr ymlaen llaw a fydd dim tystysgrif yn cael ei chyflwyno. Mae modd cynnal hyd at 4 chwiliad yn ystod y slot hanner awr. Mae modd gwneud apwyntiadau rhwng 9.30am a 12am, a rhwng 1pm a 3.30pm o ddydd Llun hyd at ddydd Gwener.

Isadran Pridiannau Tir

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,

Eiddo'r Cyngor

Tŷ Trevithick

Abercynon

CF45 4UQ

Ffôn: 01443 281189

 

Rheoliadai Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) ( Cymru) 2009

Daeth y rheoliadau uchod i rym ar 6 Ebrill 2009.

Bydd rhaid cyfeirio pob ymholiad ynglŷn â chwilio am ddata sy'n cael eu cadw gan yr Awdurdod Lleol a'r ffioedd cysylltiedig yn uniongyrchol i'r adran berthnasol, sef:

Cynllunio a rheoli adeiladu

Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd CF37 1DU

Rhif ffôn: 01443 425001

Priffyrdd

Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd CF37 1DU

Rhif ffôn: 01443 425001

Iechyd y Cyhoedd

Uned B1, Tŷ Elái, Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Tonypandy, RhCT, CF40 1NY

Rhif ffôn: 01443 425001

Hawliau Tramwy Cyhoeddus/Cefn Gwlad

Uned 7C Parc Busnes Hepworth,Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9DX

Rhif ffôn: 01443 562240

 

 

 

Tudalennau Perthnasol