Skip to main content

Ceisiadau Cynllunio chwilio'r gofrestr

Mae rhaid cael caniatâd cynllunio cyn cyflawni'r rhan fwyaf o ddatblygiadau. Mae hyn yn cynnwys gwaith ffisegol, megis adeiladau newydd neu estyniadau, neu newidiadau o ran defnydd tir ac adeiladau.

Gweld ceisiadau cynllunio a phenderfyniadau drwy chwilio ein cofrestr ar-lein.

Mae'r Cyngor yn darparu gwybodaeth ynglŷn â cheisiadau cynllunio sydd wedi'u cyflwyno a phenderfyniadau sydd wedi'u gwneud, ac mae'n bosibl eu gweld nhw drwy chwilio'r gofrestr ar-lein. Mae dogfennau cysylltiedig wedi cael eu sganio, ond dydy'r rhai ers cyn mis Tachwedd 2008 ddim ar gael ar hyn o bryd. Os ydych chi eisiau edrych ar geisiadau cynllunio sydd ddim ar-lein eto, bydd eisiau i chi ymweld â swyddfeydd y Cyngor. 

Dod o hyd i geisiadau cynllunio ar-lein. Defnyddiwch rif y cais, y côd post neu enw'r stryd.

Drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio yma, rydych chi'n derbyn y cyfyngiadau, yr ymwadiad a'r amodau sydd wedi'u nodi isod.

Tra gwneir pob ymdrech i gadw safle we gyfredol yn cyntefig, mae problemau technegol yn digwydd.  Os ydych yn cael trafferth cael gafael ar wybodaeth yr ydych angen drwy wefan cysylltwch â yr adran Cynllunio ar (01443) 494742 neu e-bost gwasanaethaucynllunio@rctcbc.gov.uk 

Gallwch hefyd chwilio Ceisiadau Cynllunio ar fap
© Hawlfraint y Goron a Landmark Information Group Ltd (cedwir pob hawl 2016)

Cyfyngiadau 

Rydyn ni wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth. Serch hynny, mae'r wybodaeth gynllunio sydd ar gael ar y safle yma yn anghyflawn ar hyn o bryd, felly, peidiwch â defnyddio'r wybodaeth yn lle cynnal chwiliad ffurfiol o ran Pridiannau Tir Lleol. Dydy'r wybodaeth yma ddim chwaith yn disodli cofrestr statudol y Cyngor o ran ceisiadau cynllunio. 

Byddwch yn ymwybodol bod gwaith yn parhau mewn perthynas â chywirdeb y gronfa ddata sylfaenol o eiddo. Yn sgil dod â gwybodaeth ynghyd o ffynonellau papur ac electronig, mae'n bosibl y byddwch chi'n sylwi bod rhai o'r eiddo wedi'i nodi sawl gwaith ac/neu wedi'u nodi mewn ffyrdd gwahanol. Dylech chi, felly, gymryd gofal wrth chwilio.  Dydy'r ffiniau sydd i'w gweld ar fapiau'r Arolwg Ordnans, ac sy'n cael eu hawgrymu trwy geisiadau cynllunio, ddim o reidrwydd yn ymwneud â pherchnogaeth tir. Os oes unrhyw gwestiynau gennych chi ynglŷn â pherchnogaeth tir, cysylltwch â'r Gofrestrfa Tir.

Ymwadiad

Fyddwn ni ddim yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw wallau neu ddiffygion yn y wybodaeth hanes cynllunio sy'n cael ei chodi o'n cofrestr ar-lein. Yn yr un modd, dyw'r wybodaeth ar-lein ddim yn gyfystyr â hysbysiad ffurfiol o'r penderfyniad cynllunio, mewn unrhyw ffordd. Bydd unrhyw gamau sy'n cael eu cymryd o ganlyniad i'r wybodaeth ar y safle yn cael eu cymryd ar sail risg y darllenydd yn llwyr.

Hawlfraint 

Mae'r holl gynlluniau, lluniau a deunyddiau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor wedi'u diogelu gan hawlfraint (Adran 47, Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1998). Cewch chi ddefnyddio deunydd sydd wedi'i lawrlwytho a/neu ei argraffu er rhesymau ymgynghori yn unig, neu er mwyn cymharu ceisiadau newydd â chynlluniau blaenorol, neu sicrhau bod datblygiadau'n cael eu cyflawni yn unol â'r cynlluniau sydd wedi'u cymeradwyo. Bydd rhaid cael caniatâd gan berchennog yr hawlfraint cyn gwneud copïau ychwanegol.

Problemau neu gwestiynau?

Os oes unrhyw broblemau gennych chi o ran defnyddio'r peiriant chwilio yma, neu os oes unrhyw gwestiynau gennych chi ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w gweld, anfonwch y manylion mewn neges e-bost a byddwn ni'n gwneud ein gorau glas i'ch helpu chi.

Drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio yma, rydych chi'n derbyn y cyfyngiadau, yr ymwadiad a'r amodau sydd wedi'u nodi uchod.

Rydw i'n derbyn y rhain ac rydw i eisiau chwilio am geisiadau cynllunio ar-lein.

Cysylltwch â ni 

Gwasanaeth Cynllunio

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 425004