Skip to main content

Cytundeb Cyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig

Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ôl y gyfraith, baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol presennol (2006-2021) ei fabwysiadu yn 2011 ac roedd yn destun Adolygiad llawn yn 2019. Daeth canlyniadau'r Adroddiad Adolygu cysylltiedig i gasgliad y dylai'r Cyngor ddechrau Adolygiad llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol.

Cam allweddol cyntaf y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLlD) yw ysgrifennu Cytundeb Cyflawni ar gyfer ei baratoi. Mae'r Cytundeb Cyflawni wedi'i rannu'n ddwy ran allweddol:

  • Yr Amserlen ar gyfer rheoli prosiect y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, nodi camau statudol y broses creu cynlluniau a phan fyddwn ni wedi ymrwymo iddyn nhw gael eu cynnal. Mae hyn hefyd yn pennu ac yn dangos argaeledd adnoddau cyllidebol a staff angenrheidiol sydd eu hangen i baratoi'r cynllun.
  • Mae'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol yn nodi egwyddorion, strategaeth a mecanweithiau ar gyfer cyfranogiad cynnar, parhaus ac eang gan randdeiliaid wrth baratoi'r CDLlD. Mae'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol yn dangos sut, pwy a phryd y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ceisio cyfranogiad ac ymgysylltiad y rhanddeiliaid yma. Bydd hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, y cyhoedd, grwpiau cymunedol, datblygwyr masnachol, cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau.

Ym mis Mawrth/Ebrill 2022, cymeradwyodd y Cyngor a Llywodraeth, Gytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037 gyda dyddiad dechrau Ebrill 2022. Ym mis Gorffennaf 2023, cymeradwywyd gwelliant i'r DA a'i amserlen. Mae Amserlen newydd y DA yn nodi amserlen ar gyfer cwblhau'r CDLl Diwygiedig hyd at ei fabwysiadu ym mis Mai 2026, fel a ganlyn.

Cam Allweddol

Dyddiad  

Paratoi Cam Cyn-adneuo'r CDLl Diwygiedig gan gynnwys y Strategaeth a Ffefrir

O Ebrill 2022

Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir

Ionawr/Chwefror 2024

Paratoi'r CDLl Adneuo Diwygiedig

Mawrth 2024

Ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo Diwygiedig

Ionawr/Chwefror 2025

Gosod y CDLl Diwygiedig ger bron Llywodraeth Cymru

Mehefin 2025

Archwiliad Annibynnol

Tachwedd/Rhagfyr 2025

Mabwysiadu

Mai 2026

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, cysylltwch â'r Garfan Polisi Cynllunio trwy ddefnyddio'r manylion isod. Byddai'n well pe bai modd i chi gysylltu trwy e-bost;

Mae'r garfan yn gweithio o'r cyfeiriad canlynol er bod aelodau'r garfan yn gweithio gartref ar hyn o bryd (Medi 2020). Mae'n bosibl y bydd peth oedi wrth gyfathrebu trwy'r post.

Os hoffech weld copi caled o'r ddogfen, mae hwn ar gael i'w weld yn ein llyfrgelloedd a chanolfannau Un Bob Un.  Mae copi o'r ddogfen hefyd ar gael i'w harchwilio yn ein prif swyddfa yn 2 Llys Cadwyn, Pontypridd yn ystod oriau swyddfa arferol, yn amodol ar apwyntiad ymlaen llaw.

Carfan Polisi Cynllunio

2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH

Ffon:  01443 281129