Defnyddiwch fagiau du neu'ch bin ar olwynion ar gyfer eich gwastraff bob dydd nad oes modd ei ailgylchu na'i gompostio. Caiff y rhain eu casglu bob tair wythnos.
Faint o wastraff mae modd i mi ei roi allan?
Mae cyfyngiad ar nifer y bagiau du maint arferol rydych chi'n cael eu rhoi allan ar gyfer eich casgliad sbwriel bob tair wythnos. Mewn uchafswm o 3 bagdu maint safonol yn unig (ngaiau du sy'n uchafswm o 70 litre).
Rhowch yr holl wastraff nad oes modd ei ailgylchu yn eich bag du/bin ar olwynion, mae hyn yn cynnwys gwastraff anifeiliaid (ymlusgiaid, cŵn, cathod), bagiau stoma a thiwbiau bwydo.
Byddwn ni ddim yn casglu bagiau du sy'n rhy drwm neu'n rhy fawr.
Beth sy'n digwydd os ydw i'n mynd y tu hwnt i fy lwfans?
Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw fagiau du ychwanegol ac mae'n debygol y bydd Swyddogion Gorfodi'r Cyngor yn ymweld â chi.
Bydd y Cyngor yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 – a fydd y cam olaf – i breswylwyr sy'n gwrthod ailgylchu byth a hefyd neu sy'n anwybyddu cyngor neu rybuddion y Swyddogion Gorfodi.
Mae modd i chi gysylltu â'r Cyngor am gyngor i'ch helpu chi i leihau eich gwastraff bagiau du ac ailgylchu rhagor. Fel arall, defnyddiwch yr adnodd chwilio isod i ddarganfod pa fin neu fag y mae eich gwastraff gwahanol chi'n mynd ynddo.
Pa gymorth sydd ar gael os does dim modd i mi gadw at y cyfyngiad bagiau du/bin ar olwynion?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio dim ond hyn a hyn o fagiau du oherwydd amgylchiadau personol, mae modd i chi ofyn am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.
Ble mae'r gwastraff yn mynd?
Ar hyn o bryd, mae popeth rydych chi'n eu rhoi yn y bin yn mynd i Viridor, Parc Trident, Cyfleuster adfer ynni Caerdydd.
Nodwch eich cyfeiriad isod a byddwn ni'n esbonio sut mae modd cael gwared ar yr eitemau yma.