O 1 Rhagfyr, mae modd i chi drefnu i'ch coeden Nadolig go iawn gael ei chasglu o ochr y ffordd rhwng 29 Rhagfyr, a 30 Ionawr 2026.
Trefnu casglu'ch coeden ar-lein:
Mae modd i chi drefnu bod eich coeden Nadolig yn cael ei hailgylchu gan ddefnyddio'n ffurflen ar-lein
Nodwch: Does dim modd i ni gasglu coed artiffisial yn rhan o wasanaeth Casglu Coed Nadolig y Cyngor. Rhaid i chi fynd â choed artiffisial i un o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor, neu eu cynnwys nhw'n rhan o gasgliad eitemau mawr.
*Er mwyn trefnu casglu coed Nadolig o ysgolion a lleoliadau annomestig, rhaid e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk
Dros y ffôn:
Mae modd trefnu casgliad drwy ffonio 01443 425001
Bydd y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf (gan gynnwys coed Nadolig sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn cael ei ohirio yr wythnos yn dechrau 25 Rhagfyr. Bydd Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf wedi'u trefnu yn ailddechrau ddydd Llun, 12 Ionawr 2026. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned lleol yn y gymuned drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Cyfarwyddiadau
Rhaid i drigolion drefnu amser ar gyfer casglu eu coed o leiaf 24 awr cyn eu diwrnod casglu arferol. Fydd y coed ddim yn cael eu casglu fel mater o drefn.
Yn ystod y cyfnod trefnu amser, mae modd i goed Nadolig cael eu gosod wrth ochr y ffordd yn gyfan. Ond, rhaid i goed sydd yn fwy na 4 troedfedd cael eu torri'n ddarnau llai fel bod modd i'r criwiau eu codi'n ddiogel. Tynnwch BOB golau, seren ac addurn ymlaen llaw.
Sylwch: mae modd mynd â choed Nadolig ffug i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu mae modd i chi drefnu i'r goeden cael ei chasglu os ydych chi eisiau cael gwared arni.
Cofiwch roi'r HOLL sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu neu ddiwrnod caglu dros dro. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r pafin.
Os nad ydyn ni wedi ei chasglu yn ôl y disgwyl, gadewch eich coeden ar y pafin. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Mae'n bosibl y bydd ein criwiau'n gweithio gyda'r nos yn ystod cyfnodau prysur, ac mae modd i staff ychwanegol gael eu galw i gael gwared ar y coed y diwrnod canlynol.
Coeden Nadolig heb ei chasglu
Mae criwiau casglu Coed Nadolig ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r hwyr i gwrdd â'r galw.
Rhowch eich coeden yn eich man casglu arferol. Os dyw'r goeden ddim wedi'i chasglu erbyn canol dydd ar y diwrnod yn dilyn eich slot casglu wedi'i drefnu ymlaen llaw, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r ddolen isod a gadewch eich coeden yn eich man casglu.
Rhoi gwybod am goeden Nadolig heb ei chasglu
Coeden Nadolig heb ei chasglu