Mae Carfan Ymwybyddiaeth Gofal y Strydoedd y Cyngor yn ymweld â gwahanol leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf i geisio gwella cyfraddau ailgylchu drwy sicrhau bod gan drigolion yr holl wybodaeth ac adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.
Mae'r garfan yn ymweld ag ysgolion, grwpiau cymunedol, strydoedd, trefi ac archfarchnadoedd yn aml i ledaenu'r neges ailgylchu.
Bwriwch olwg ar yr wybodaeth isod i gael gwybod ble fyddan nhw'n ymweld â nesaf.
Yn DOD YN FUAN i stryd neu dref yn agos atoch chi....
Dewch draw i'r Sioe Deithiol ar y dyddiau isod:
- Dydd Mawrth 30 Mai, Canolfan Hamdden Rhondda Fach, 10am-1pm
- Dydd Mercher 31 Mai, Stryd y Felin, Pontypridd, 10am-1pm
- Dydd Iau, 1 Mehefin, Asda, Tonypandy, 10am-1pm
- Dydd Gwener 2 Mehefin, Llyfrgell Aberdâr, 10am-1pm.
Bydd ein carfan yn cynnig cyngor ac yn ateb cwestiynau, yn ogystal â sicrhau bod gyda chi ddigon o fagiau CLIR a bagiau gwastraff bwyd.