Mae modd i chi drefnu dyddiad ac amser i gael gwared ar asbestos eich cartref yng Nghanolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen.
Mae asbestos i'w gael mewn nifer o ddeunyddiau a chynhyrchion adeiladu. Os caiff deunyddiau sy'n cynnwys asbestos eu difrodi, efallai byddan nhw'n rhyddhau ffibrau i'r awyr sy'n beryglus i'ch iechyd. Mae angen i chi gael gwared arno'n iawn er diogelwch pawb.
Mae asbestos i'w gael mewn rhai:
- Pibellau
- Byrddau inswleiddio
- Teils nenfwd a llawr
- Dalennau to
- Breciau a chydwyr (clutches) ceir
Trefnu a pharatoi asbestos i'w ailgylchu
Bydd Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, yn derbyn asbestos o gartrefi yn RhCT.
Er mwyn mynd ag asbestos i'r ganolfan, rhaid i chi:
- Ffonio Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen ar 07971913289 i drefnu i gael gwared arno
- Ei bacio yn ôl cyfarwyddyd Tŷ Amgen.
- Mynd i'r ganolfan ar y dyddiad a'r amser wedi'u trefnu.
- Mynd â phrawf o ble rydych chi'n byw
Talu am gael gwared ar asbestos yn breifat
Os ydych chi'n talu i adeiladwr neu gwmni gael gwared ag asbestos, yna nhw sy'n gyfrifol am gael gwared arno fe.
Mae'n bwysig gwirio bod gan y busnes drwydded cludo gwastraff gyfredol.