Mae'r gwasanaeth casgliadau â chymorth ar gyfer pobl sy'n cael trafferth mynd â'u deunyddiau i'w hailgylchu a'u gwastraff i'w man casglu a does neb gyda nhw i'w helpu.
Dyma'r drefn
Mae modd gwneud cais i gael eich bagiau a'ch biniau wedi'u casglu o le sy'n haws i chi eu cludo nhw iddo. Efallai mai'ch drws blaen, eich dreif, eich gardd neu'ch mynedfa ochr yw hyn.
Ar gyfer pwy mae hyn?
Efallai y bydd angen help arnoch chi yn yr hirdymor neu'r tymor byr. Efallai eich bod:
- Yn anabl
- Yn hen
- Yn gwella yn dilyn llawdriniaeth
Mae modd i ni helpu i gasglu’r canlynol:
- Bagiau du (nid bagiau mewn biniau olwynion)
- Bagiau ailgylchu clir
- Bin gwastraff bwyd
- Sachau gwastraff gwyrdd
- Bagiau anymataliaeth
- Bag cewynnau
Does dim modd i ni gasglu bagiau na biniau o'r mannau canlynol:
- Yn eich cartref
- Pellteroedd hir
- Ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd
- Biniau ar olwynion
Os dydych chi ddim yn siwr a ydych chi'n gymwys, cyflwynwch gais a byddwn ni'n trafod pa opsiynau sydd ar gael i chi.
Gwneud cais am gasgliadau â chymorth
Canslo casgliadau â chymorth
Os dydych chi ddim angen y gwasanaeth casgliadau â chymorth mwyach, anfonwch e-bost ailgylchu@rctcbc.gov.uk i roi gwybod i ni.
Os dydyn ni ddim o'r farn eich bod chi'n gymwys mwyach ar gyfer y gwasanaeth yma, byddwn ni'n cysylltu â chi i roi gwybod i chi a byddwn ni'n rhoi’r gorau i ddarparu'r gwasanaeth casgliadau â chymorth i chi.