Dros y pum mlynedd nesaf, nod Strategaeth Gwastraff ac Adnoddau'r Cyngor yw cynyddu ailgylchu, lleihau gwastraff, a gwneud defnydd gwell o adnoddau i gefnogi Rhondda Cynon Taf mwy glân a mwy cynaliadwy.
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau ailgylchu syml a chyfleus i drigolion wrth weithio tuag at gyfraddau ailgylchu uwchlaw 70%.
Beth mae'r strategaeth yn anelu at ei gyflawni?
- Cynyddu cyfraddau ailgylchu a chynnal cyflawniad uwchlaw targed Llywodraeth Cymru o 70%.
- Lleihau faint o wastraff sy'n cael ei anfon i'w waredu a'i dirlenwi.
- Helpu aelwydydd i leihau faint o wastraff maen nhw'n ei gynhyrchu.
- Annog mwy o drigolion i ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gardd a deunyddiau ailgylchu bob dydd.
- Ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.
- Cefnogi economi gylchol lle mae deunyddiau'n cael eu hailddefnyddio a'u hailgylchu'n gynhyrchion newydd.
- Gwella effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu.
- Lleihau'r allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â chasglu, ailgylchu a gwaredu gwastraff.
Bydd lleihau gwastraff, ailddefnyddio mwy o ddeunyddiau a chynyddu cyfraddau ailgylchu yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd, lleihau allyriadau carbon, cadw adnoddau a chreu dyfodol mwy cynaliadwy i gymunedau lleol.
Bwrw golwg ar Strategaeth Gwastraff ac Adnoddau Rhondda Cynon Taf 2025–2030.