Sut mae cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Anymataliaeth?
Mae casgliadau gwastraff anymataliaeth yn wasanaeth bob wythnos AM DDIM a gaiff ei gynnig i drigolion Rhondda Cynon Taf.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Cyn pen pythefnos o gofrestru, byddwch chi'n derbyn set o fagiau porffor. Efallai na fydd eich diwrnod casglu'r un peth â'ch diwrnod casglu sbwriel ac ailgylchu.
Sut i ailgylchu gwastraff anymataliaeth
Rhowch y pad sydd wedi’i ddefnyddio yn y bag porffor. Ar eich diwrnod casglu, clymwch y bag a’i roi yn yr un lle â mae’ch sbwriel / deunydd i’w ailgylchu yn cael eu casglu fel arfer.
Cofiwch -
Angen rhagor o fagiau?
Gwneud cais i fagiau porffor gael eu hanfon i'ch tŷ.
Neu, croeso i chi ffonio 01443 425001
Ymestyn eich tanysgrifiad
Mae modd i chi ymestyn eich tanysgrifiad am 1 i 3 blynedd arall arlein.
Rhoi gwybod am newid i gyfeiriad
Mae modd i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru newid eu cyfeiriad ar-lein
Ceisiwch roi gwybod i ni o leiaf wythnos cyn i chi symud oherwydd ei bod hi’n bosibl y bydd eich diwrnod casglu’n newid hefyd.
Gadael y cynllun casglu gwastraff anymataliaeth.
Mae modd i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru wneud cais i beidio â bod yn rhan o'r cynllun Ailgylchu gwastraff anymataliaeth ar-lein.
Nodwch: os yw cyfnod o dros 4 wythnos yn mynd heibio a dydych chi ddim wedi rhoi unrhyw fagiau porffor yn y man casglu, byddwn ni’n tybio nad ydych chi angen y gwasanaeth mwyach.
Bagiau heb eu casglu
O fis Hydref 2019, bydd angen i chi ailgofrestru’ch manylion os ydych chi eisiau parhau i fod yn rhan o’r cynllun. Mae’n bosibl na fydd eich bagiau yn cael eu casglu os na fyddwch chi’n gwneud hyn. Mae modd ailgofrestru ar-lein neu drwy ffonio 01443 425001.
Os ydych chi wedi ailgofrestru’ch manylion a dydy’ch bag porffor ddim wedi cael ei gasglu, sicrhewch nad yw’ch diwrnod casglu wedi newid.
Os ydych chi wedi ailgofrestru ac wedi gwirio’ch diwrnod casglu, a dydy’ch bagiau porffor ddim wedi cael eu casglu erbyn 3pm ar y diwrnod casglu, rhowch wybod i ni ar-lein