Skip to main content

Cyrsiau Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Cwrs Addysg i Oedolion yn y Gymuned yw'r cyfle delfrydol i ddysgu sgil newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a chael dechrau newydd.

Mae ein tiwtoriaid yn gyfeillgar, yn brofiadol a byddan nhw'n eich croesawu i'n cyrsiau ac yn eich helpu. Mae nifer o'n cyrsiau wedi'u hachredu gan Agored Cymru. Bydd hyn yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch pe baech chi'n dymuno ennill cymwysterau.

 

Cyrsiau prif ffrwd

Rydyn ni'n cynnal amrywiaeth o gyrsiau sy'n trin a thrafod cynifer o bynciau ag y gallwn ni.

 

Tablet-2
TGCh
(TG / Cyfrifiadura)
Gan gynnwys - Cyfrifiaduron i Ddechreuwyr, iPads yn Unig, Tabledi a Ffonau Clyfar a Threfnu a Golygu Eich Ffotograffau.
Computer-Class

Gan gynnwys - ICDL Craidd ac ICDL Uwch.

Sign-Language
Iaith Arwyddion Prydain

Cyrsiau i Ddechreuwyr, Gwellhawyr a Chanolradd.

History
Hanes

Gan gynnwys - Hanes Teuluol, Lleol a Chelf.

Art
Gan gynnwys - Ailgylchu Eich Dillad, Sgiliau Gwnïo, Braslunio er Hwyl, Celf Tirwedd, Celfyddyd Gain a Chrefftau Tymhorol er Llesiant.
Guitar-Lesson

Gan gynnwys - Gitâr i Ddechreuwyr, Gitâr i Wellwyr, Ysgrifennu Caneuon ac Ysgrifennu Creadigol.

CPR
Hyfforddiant Galwedigaethol
Gan gynnwys - Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo ac Iechyd a Diogelwch.
Aromatherapy
Llesiant
Gan gynnwys - Rheoli Straen ac Aromatherapi

Dysgu Ychwanegol


Learning-Steps

Camau Dysgu RhCT

Mae'r cyrsiau Camau Dysgu yn rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu. Mae'r cyrsiau'n annog dysgwyr i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd, dysgu ar gyflymder priodol a gweithio gyda thiwtoriaid arbenigol. Mae'r cyrsiau'n wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Learning
Saesneg, Mathemateg a Chymorth Digidol (Sgiliau Hanfodol)
Rydyn ni'n cynnig y cyfle i wella eich sgiliau Digidol, Saesneg a Mathemateg mewn awyrgylch cefnogol gyda thiwtor profiadol a chyfeillgar. Mae cyrsiau'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn a chewch chi ymuno unrhyw bryd.

Efallai y bydd modd i ni ddarparu ein cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd – rhowch wybod i ni os oes gyda chi ddiddordeb mewn cyrsiau cyfrwng Cymraeg pan fyddwch chi'n cofrestru.

For course dates, times and venues.

 

Mae modd dod o hyd i lyfrynnau ym mhob llyfrgell ac adeilad RhCT ledled RhCT

Alternatively paper enrolment forms are also available.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar unrhyw un o’r cyrsiau, cysylltwch â ni:

Ffôn: 01443 570077

Ebost: AddysgOedolion@rctcbc.gov.uk