Skip to main content

ICDL (International Certification of Digital Literacy) Courses

ICDL - International Certification of Digital Literacy (Formally known as ECDL)

 

I bwy mae’r cymhwyster yma?

P’un a ydych chi’n dechrau o’r dechrau’n deg, neu’n gweithio â chyfrifiaduron yn barod, bydd y cymhwyster ICDL yn rhoi help i chi wella’ch sgiliau a’ch cynhyrchedd.

Mae’r Dystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) yn helpu dysgwyr i ddeall cyfrifiaduron yn well. Mae hefyd yn hybu defnyddio meddalwedd mewn ffordd effeithlon. Mae cyflogwyr ledled y byd yn cydnabod y cymhwyster yn un safonol o ran sgiliau digidol a Thechnoleg Gwybodaeth defnyddwyr.

Yn Yr Olwg, mae’r cwrs ICDL yn yr ystafell ddosbarth wedi’i gynllunio i gael ei arwain gan ddysgwyr, gyda thiwtor ar gael i roi cymorth. Bydd gweithdai ychwanegol ar gael yn ystod cyfnod y cwrs.

Mae ein cyrsiau ar-lein yn cynnig yr hyblygrwydd i ddysgu yn eich amser eich hun, ar eich cyflymder eich hun, gyda chymorth gan diwtor ar gais.
Bydd pob arholiad yn cael ei sefyll yn Yr Olwg.

 

 

Byddwch chi’n astudio:

  • Diogelwch TG i ddefnyddwyr (Lefel 1)
  • Hanfodion cyfri?dauron (Lefel 1)
  • Prosesu geiriau (Lefel 2)
  • Meddalwedd taenlenni (Lefel 2)
  • Meddalwedd cronfeydd data
  • Meddalwedd cy?wyniadau (Lefel 2) (Lefel 2)
  • Hanfodion ar-lein (Lefel 1)

Ar ôl cwblhau’r saith modiwl, byddwch chi’n ennill y cymhwyster ICDL llawn. Mae modd dilyn modiwlau unigol ar wahân hefyd. 

 

ICDL Pellach 

 

Mae Lefel 3 yn eich galluogi i ddefnyddio’r wybodaeth ddigidol sydd gyda chi eisoes yn sail i ddod yn arbenigwr wrth ddefnyddio’r apiau meddalwedd sy’n hanfodol ym mhob busnes heddiw.

P’un a ydych chi’n chwilio am swydd newydd neu ddyrchafiad, gall ychwanegu cymhwyster digidol at eich CV eich helpu i gyrraedd y nod.

Byddwch chi’n astudio (Lefel 3):

  • Prosesu geiriau
  • Meddalwedd cyflwyniadau
  • Taenlenni
  • Cronfeydd data

Mae pob un o'r modiwlau hyn yn gymhwyster ar wahân, syn rhoi cyfle i ddysgwyr benderfynu sawl un maen nhw am eu cwblhau. 

For course dates, times and venues.