Skip to main content

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Ym mis Medi 2022, lluniwyd Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gyflwyno Prydau Ysgol i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) i bob disgybl cynradd erbyn mis Medi 2024. Cafodd y cynllun ei gyflawni yn Rhondda Cynon Taf ym mis Ebrill 2024, cyn dyddiad terfyn Llywodraeth Cymru o fis Medi 2024.Mae pob disgybl, gan gynnwys disgyblion Meithrin mewn addysg llawn amser, nawr yn gymwys i dderbyn pryd o fwyd iachus am ddim bob dydd yn yr ysgol.Dydy disgyblion Meithrin rhan-amser ddim yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod rhai lleoliadau'n cynnig darpariaeth cinio, ond bydd rhaid i'r rhiant/ gwarcheidwad dalu trwy'r porth talu ar-lein.

Cwestiynau Cyffredin - Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd 

Hawlio prydau ysgol am ddim

Mae'n bosibl i brydau ysgol o ansawdd da gyfrannu'n sylweddol at ddiet y plant a chael dylanwad ar eu hiechyd a'u lles yn gyffredinol. Mae prydau ysgol am ddim, ar gyfer y plant hynny sy'n gymwys, yn cyfrannu at wneud yn siŵr bod y rhan fwyaf o blant yn bwyta o leiaf un pryd o fwyd sy'n gytbwys ac yn faethlon yn ystod diwrnodau'r ysgol – beth bynnag yw incwm eu rheini.

Mae'r un dewis o fwyd ar gael i'r holl ddisgyblion – p'un ai eu bod nhw'n talu neu'n hawlio prydau ysgol am ddim. Bob dydd, bydd gwasanaeth arlwyo ym mhob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn gweini dewis o brydau poeth, salad, tatws pob a bagéts gyda llenwad, a hyd yn oed becynnau bwyd.

Os ydych chi'n meddwl ei bod hi’n bosibl bod hawl gyda'ch plentyn/plant chi i hawlio prydau ysgol am ddim, darllenwch yr wybodaeth sydd ar y dudalen prydau ysgol am ddim.