Mae modd i ddisgyblion sy'n cael gwersi offeryn yn yr ysgol arbed llawer o arian os yw'n prynu offeryn newydd drwy 'Gynllun Cymorth i Brynu Offeryn'. Rhaid bodloni’r meini prawf canlynol.
Sut mae'r cynllun yn gweithio
- Mae’r rhiant/disgybl yn dewis offeryn
- Mae’r rhiant yn talu’r swm heb TAW i’r ysgol
- Mae’r ysgol yn gwneud archeb swyddogol
- Mae’r ysgol yn derbyn anfoneb ar gyfer y swm llawn gan gynnwys TAW
- Mae’r ysgol yn hawlio’r TAW yn ôl yn y ffordd arferol.
- Rhaid i'r offeryn gael ei roi i'r rhiant/disgybl yn yr ysgol
Rheolau a diffiniadau Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn
Er mwyn manteisio ar y cynllun yma, rhaid bodloni’r meini prawf canlynol:
- Rhaid prynu’r offeryn drwy’r ysgol neu'r awdurdod lleol ac mae rhaid i’r offeryn gael ei drosglwyddo i'r disgybl neu'i warchodwr ar safle’r ysgol
- Rhaid i’r disgybl fod yn derbyn addysg y wladwriaeth
- Rhaid defnyddio'r offeryn yn rhan o wersi cerdd y disgybl
- Rhaid i’r offeryn fod yn addas i anghenion y disgybl
- Rhaid i gost yr offeryn fod ar yr un lefel neu’n is na chostau arferol yr ysgol, gan gynnwys TAW
I bwrpas Cynllun Cymorth i Brynu Offeryn, mae'r diffiniadau isod yn gymwys:
- Ystyr 'addysg y wladwriaeth' yw:
- Gwersi cerdd mewn ysgol yn yr awdurdod lleol
- Gwersi cerdd mewn academi
- Gwersi cerdd yng ngherddorfa'r ysgol neu yng ngherddorfa'r awdurdod lleol.
- Gwersi cerdd mewn canolfan gerdd leol
- Mae offerynnau cerdd yn cynnwys darnau newydd
Gwasanaeth Cerdd RhCT
Canolfan Menter y Cymoedd
Parc Hen Lofa'r Navigation,
Aberpennar
CF45 4SN
Ffôn: 01443 744017