Skip to main content

Gwersi Offerynnau a Llais (Canu)

Bwriad y Gwasanaeth Cerdd yw gwella’r profiadau cerddorol sydd ar gael i ddisgyblion drwy gynnig hyfforddiant offerynnol a chanu iddyn nhw.

Mae’r Gwasanaeth Cerdd hefyd yn darparu gwersi cerdd ar gyfer y dosbarth cyfan ynghyd ag ystod o brosiectau a gweithdai mewn ysgolion, weithiau bydd y rhain yn cael eu cynnal ar y cyd â sefydliadau eraill.

Yn ogystal â chanolbwyntio ar yr unigolyn, mae gwersi offerynnol hefyd yn gyfle i gael profiad cerddorol ehangach drwy gymryd rhan mewn ensembles, bandiau, cerddorfeydd a chorau.

Mae’r Gwasanaeth Offerynnol yn cynnig hyfforddiant ar gyfer yr offerynnau canlynol:

  • Offerynnau pres
  • Gitâr
  • Offeryn llawfwrdd
  • Offerynnau taro
  • Piano
  • Y llais (canu)
  • Offerynnau llinynnol
  • Offerynnau chwyth

Mae’r gwasanaeth yn cynnig hyfforddiant i unigolion neu grwpiau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ogystal â dysgu’r cwricwlwm a chynnal gweithdai mewn ysgolion i fabanod.

Gwaith y gwasanaeth

  • Gwella cyrhaeddiad cerddorol disgyblion
  • Helpu’r disgyblion i ddatblygu sgiliau newydd fydd yn eu galluogi i gael hwyl a chymryd rhan mewn ystod eang o brofiadau cerddorol a chyfrannu at fywyd cerddorol yr ysgol neu’r gymuned
  • Hyrwyddo dealltwriaeth y disgybl o gerddoriaeth ym mywyd pob dydd ei ddiwylliant ei hun a diwylliannau eraill
  • Galluogi i ddisgyblion wireddu eu potensial cerddorol drwy chwarae offeryn cerdd neu ganu
  • Annog y disgybl i fagu hunan-hyder a datblygu ymdeimlad o gyrhaeddiad personol a mynegiant
Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes

Canolfan Menter y Cymoedd

Parc Hen Lofa'r Navigation,

Aberpennar

CF45 4SN

Ffôn: 01443 744017
Tudalennau Perthnasol