Skip to main content

Yr Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd – yn agor yn yr hydref, 2026

Dyma roi gwybod bod modd i rieni a gwarcheidwaid plant sy'n byw yn y dalgylch ac sy'n gymwys i gael lle yn yr ysgol ADY 3 i 19 oed newydd yng Nghwm Clydach, Rhondda Cynon Taf, gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth. Mae'r ysgol newydd yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Bydd yr ysgol yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Yr ysgol newydd o'r radd flaenaf yma fydd pumed ysgol ADY y Cyngor, pan fydd yn agor ar hen safle'r Pafiliynau.  Bydd modd i 176 o ddisgyblion astudio yn yr adeilad newydd, modern yma, gan fanteisio i’r eithaf ar gyfleusterau arbenigol sy'n diwallu anghenion pob disgybl.

Mae modd dysgu rhagor am yr ysgol a chael gwybod am bob carreg filltir o ran gwaith adeiladu ar y dudalen we yma.

Bydd gan yr ysgol ADY newydd ddalgylchoedd wedi'u cyfuno Ysgol Gymuned y Porth, Ysgol Gymuned Tonyrefail, Ysgol Nant-gwyn (ac eithrio Ysgol Gynradd Pontrhondda), Ysgol Gynradd Coed-y-lan ac Ysgol Gynradd Trehopcyn. Wedi i'r ysgol agor, caiff disgyblion sydd eisoes yn mynychu ysgolion ADY 3 i 19 oed eraill, ac sy'n byw yn nalgylch yr ysgol newydd, yr opsiwn i symud. Fydd hyn ddim yn orfodol a rhieni/gwarcheidwaid fydd yn gwneud y dewis.

Os oes gyda chi blentyn sy'n byw yn nalgylch yr ysgol ADY newydd, mae modd i chi wirio cymhwysedd i gael lle yn yr ysgol ADY 3 i 19 oed newydd. Mae rhaid cael cymeradwyaeth trwy Banel Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Awdurdod Lleol i gael lle mewn ysgol ADY.

Os ydych chi eisiau i'ch plentyn gael ei ystyried o ran cael lle yn yr ysgol, neu os oes gyda chi gwestiwn cyffredinol am gymhwysedd, e-bostiwch GweinydduADY@rctcbc.gov.uk.

Mae modd dysgu rhagor drwy e-bostio GweinydduADY@rctcbc.gov.uk.