Skip to main content

Ceisiadau Derbyn Disgyblion i Ysgolion ar-lein – Cwestiynau Cyffredin

  • C: Pwy sy'n cael gwneud cais ar-lein?

A: Mae modd gwneud ceisiadau ar-lein am leoedd mewn Ysgolion Meithrin, Dosbarthiadau Derbyn, ar gyfer Pontio o'r Ysgol Fabanod i'r Ysgol Iau/Ysgol Gynradd (Blwyddyn 3) ac ar gyfer Blwyddyn 7 mewn Ysgolion Uwchradd. Mae'r cais yn berthnasol ar gyfer dechrau ym mis Medi 2024.

Bydd modd i rieni wneud cais ar-lein ym mis Medi 2023 am le cyn-feithrin i ddechrau ym mis Ionawr (tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed). Cewch chi wneud cais ar-lein ym mis Ionawr 2024 am le cyn-feithrin i ddechrau ym mis Ebrill 2024(tymor ar ôl pen-blwydd y plentyn yn dair oed).

C: Sut mae gwneud cais ar-lein?

A: Mae gwneud cais ar-lein yn syml. Dilynwch y tri cham yma:

  1. Ewch i https://schooladmissions.rhondda-cynon-taff.gov.uk/CCSEnterprise_Admissionsonline_live
  2. Ymgofrestrwch gyda chyfeiriad e-bost dilys.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd i'w gweld ar-lein.

C: Pa wybodaeth sydd ei heisiau arna i er mwyn gwneud cais ar-lein?

A: Er mwyn gwneud cais ar-lein, bydd eisiau'r canlynol wrth law:-

  1.  Dyddiad geni cywir eich plentyn.
  2. Cyfeiriad e-bost dilys.

C: Oes angen meddu ar Gyfrifoldeb Rhiant ar gyfer y plentyn er    mwyn gwneud cais am le mewn ysgol?

A: Caiff y rheiny a chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn unig wneud cais a bydd angen gwneud datganiad yn rhan o’r broses gwneud cais.  Fel rheol mae disgwyl i’r person yma fyw yn yr un cyfeiriad a’r plentyn a chyfeirir at y person yma fel rhiant at ddiberion derbyn disgyblion.  O safbwynt rhieni a chyfrifoldeb cyfartal dros blentyn, bydd y Cyngor yn gofyn iddyn nhw benderfynu pa riant ddylai gyflwyno’r cais.  Os nad oes modd i’r rhieni gytuno a does gan y naill neu’r llall ddim gorchymyn llys sy’n nodi pwy ddylai gyflwyno cais, bydd y Cyngor yn derbyn cais gan y rhiant sy’n derbyn Budd-dal Plant ar ran y plentyn.  Does dim modd i’r Cyngor ymyrryd mewn anghydfodau rhwng rhieni o ran cais am le mewn ysgol a bydd yn gofyn i rieni eu datrys yn breifat.

C: Ble rydw i'n gallu gwneud cais ar-lein?

A: Mae modd gwneud ceisiadau ar-lein trwy ddefnyddio'r rhan fwyaf o ddyfeisiau sydd â chyswllt â'r rhyngrwyd.

Os ydych chi heb eich cyfrifiadur eich hun ac rydych chi eisiau gwneud cais ar-lein, mae modd i chi gyrchu'r rhyngrwyd am ddim yn unrhyw un o Lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.

C: Rydw i wedi llenwi'r ffurflen gofrestru ar-lein, ond, dydw i ddim wedi derbyn cadarnhad trwy e-bost.

A: Mae'n bosibl bod y neges e-bost wedi'i rhwystro gan hidlydd sbam eich Cyflenwr Gwasanaeth Rhyngrwyd neu yn sgil y gosodiadau ar eich system e-bost.

C: Rydw i wedi derbyn neges e-bost sy'n cynnwys dolen gyswllt i mi gael dilysu fy nghyfrif ar-lein, ond, dydy'r ddolen gyswllt ddim yn gweithio. Dydw i ddim yn gallu clicio arni hi.

A: Yn hytrach na chlicio ar y ddolen gyswllt yn y neges e-bost, rhowch gynnig ar gopïo'r ddolen gyswllt gyfan (gan gynnwys ‘https://’) sydd wedi'i nodi yn y neges e-bost, a'i gludo hi ym mar cyfeiriad eich porwr.

Os fydd hyn ddim yn gweithio, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r porwr sydd gennych chi. Mae'n bosibl y bydd eisiau i chi hefyd ganiatáu ffenestri ‘pop-up’ a gosodiadau diogelwch llai llym ar eich system/porwr er mwyn galluogi'r broses hon i lwyddo.

C: Os fydda i ddim yn gallu llenwi'r ffurflen gyfan ar unwaith, fydda i'n gallu mynd yn ôl ati rywbryd eto?

A: Byddwch

Byddwch chi'n gallu arbed eich ffurflen a mynd yn ôl ati rywbryd eto, ond, mae rhaid llenwi a chyflwyno eich cais erbyn y dyddiad cau priodol.

C: Ar ôl i mi gyflwyno fy nghais, fydda i'n derbyn cadarnhad?

A: Ar ôl i chi lenwi'ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n clicio ar y botwm ‘Cyflwyno’ ar y dudalen ‘Telerau ac Amodau’. Wedyn, ar ôl i'ch cais gael ei gyflwyno'n llwyddiannus, byddwch chi'n derbyn neges e-bost sy'n cadarnhau ein bod ni wedi'i dderbyn.

C: Beth os bydda i'n anghofio fy nghyfrinair?

A: Os byddwch chi'n anghofio'ch cyfrinair, byddwch chi'n gallu clicio ar awgrym a gosod cyfrinair newydd.

C: Beth os bydda i'n symud i gyfeiriad arall ar ôl i mi gyflwyno fy nghais?

A: Os byddwch chi'n symud i gyfeiriad arall ar ôl cyflwyno'ch cais, mae'n hollbwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni cyn gynted ag sy'n bosibl. Bydd eisiau cadarnhau eich cyfeiriad newydd yn ysgrifenedig. Am ragor o gyngor, cysylltwch â'r Garfan Materion Derbyn Disgyblion

C: Beth fydd yn digwydd os ydw i wedi colli'r dyddiad cau sydd wedi'i gyhoeddi, ond bydda i'n dal yn awyddus i wneud cais am le?

A: Yn anffodus, fydd dim modd ichi wneud cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau sydd wedi'i gyhoeddi. Fydd y system ddim yn caniatáu ichi wneud hynny. Bydd raid ichi lenwi ffurflen gais bapur. Cysylltwch â'r Garfan Materion Derbyn Disgyblion am gopi. Ond cofiwch bydd eich cais yn cael ei drin fel un hwyr.*

*Dim ond ffurflenni cais sy’n cael eu derbyn erbyn y dyddiad cau sy wedi’i nodi y byddwn ni’n eu hystyried ar gyfer y cylch cyntaf o ddyrannu lleoedd.  Bydd ffurflenni sy’n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried yn geisiadau hwyr.  Bydd ceisiadau hwyr dim ond yn cael eu derbyn gan yr Awdurdod Derbyn os bydd rheswm dilys yn cael ei roi e.e. os yw rhiant sengl wedi bod yn sal am gyfnod hir neu os yw teulu newydd symud i’r ardal.  Os bydd rheswm dilys, bydd Cais Hwyr yn cael ei dderbyn cyn belled ei fod yn dod i law cyn i leoedd gael eu cynnig yn yr ysgol/ysgolion o ddewis.  Bydd Ceisiadau Hwyr sy’n cael eu derbyn gan yr Awdurdod Derbyn yn cael eu prosesu ar ôl yr holl geisiadau a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau waeth beth fo’r rheswm dros hwyrni’r cais.  Mae’n bosibl bydd ysgol o ddewis y rheiny sy’n anfon ceisiadau hwyr eisoes yn llawn.  Bydd ceisiadau hwyr yn destun i’r un meini prawf derbyn.

C: Beth os oes rhagor o gwestiynau gen i?

A: Pe hoffech chi roi adborth sydd ddim o natur dechnegol, gwneud sylwadau neu ofyn cwestiwn, anfonwch neges e-bost at y Garfan Derbyn Disgyblion: derbyndisgyblion@rctcbc.gov.uk

Mae'r swyddfa ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm. Llun–Gwener.

Ein cyfeiriad:

Carfan Materion Derbyn Disgyblion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Y Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes
Tŷ Trevithick
Abercynon
CF45 4UQ

Ffôn: 01443 281111

I ofyn cwestiwn technegol o ran gwneud cais ar-lein, anfonwch neges e-bost i ICTServiceDesk@rctcbc.gov.uk

Pwysig – Yn ystod y broses gwneud cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn negeseuon e-bost awtomatig gan donotreply-onlineadmissions@rctcbc.gov.uk. Peidiwch ag anfon neges yn ôl i'r cyfeiriad e-bost hwn. Er mwyn cysylltu â ni, defnyddiwch y manylion cyswllt uchod