Gan gydnabod pwysigrwydd Cymraeg 2050, y weledigaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, a pha mor hanfodol yw’r system addysg i gyflawni’r weledigaeth yma, mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Rhondda Cynon Taf yn nodi’r cynllun deng mlynedd ar gyfer cynllunio a gwella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac addysg Gymraeg. Mae'n defnyddio'r Cynllun Strategol blaenorol yn sail iddo, ac yn nodi sut mae'r Cyngor yn bwriadu cyflawni ei weledigaeth deng mlynedd.
Mae sicrhau ysgolion da yn ganolog i gyflawni'r nodau hyn fel bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr un mynediad i addysg gyfrwng Gymraeg ac addysg Gymraeg gadarn. Bydd y Cyngor yn darparu hyn drwy sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bawb waeth pa anghenion dysgu sydd gyda nhw, o ddechrau'r blynyddoedd cynnar, trwy'r ysgol gynradd ac uwchradd, ac ymlaen at addysg bellach ac addysg uwch. Mae hyn yn cydfynd â'r weledigaeth, fel sydd wedi'i nodi yn nogfen 'Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.
Lawrlwythwch y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032
Er mai'r Cyngor sydd â'r cyfrifoldeb statudol am y Cynllun Strategol, mae gydag ystod o grwpiau a sefydliadau allanol rôl allweddol wrth lunio, gweithredu a gwerthuso ei gynnydd yn rheolaidd trwy gydol ei oes.
Mae’r saith prif ganlyniad a amlinellwyd yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fel a ganlyn:
Deilliant 1: Mwy o ddysgwyr Meithrin / tair oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 2: Mwy o ddisgyblion dosbarth Derbyn / pum oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau iaith Gymraeg wrth bontio o un Cyfnod o'u haddysg statudol i un arall
Deilliant 4: Mwy o ddisgyblion yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (y pwnc) a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol
Deilliant 6: Cynnydd yn narpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag ADY (yn unol â'r dyletswyddau wedi'u pennu gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018)
Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Dogfennau pwysig eraill:
Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr