Skip to main content

Taith Iaith – Hwyrddyfodiaid i addysg Gymraeg

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i'ch plentyn ddysgu Cymraeg! Mae cymorth nawr ar gael i gefnogi hwyrddyfodiaid i'r iaith i gael fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd disgyblion yn cael eu cefnogi i ddysgu sgiliau Cymraeg yn gyflym er mwyn dechrau ar eu taith i fod yn ddwyieithog. 

Pwy Sy'n Cael Ymgeisio?

Unrhyw ddisgyblion ym mlynyddoedd 2 – 6 sy'n:

• Trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg

• Trosglwyddo i ysgol cyfrwng Cymraeg o ysgol cyfrwng Saesneg tu allan i'r sir

Yr Hyn Rydym yn Ei Gynnig:

  • Cyfle i hwyrddyfodiaid ddysgu'r iaith a chael mynediad at addysg Gymraeg
  • Profiad o ddysgu trwy drochi wedi'i deilwra i bob unigolyn
  • Canllaw cam wrth gam i ddysgu'r iaith Gymraeg
  • Cymorth ac arweiniad i ddisgyblion, staff a rhieni/gwarcheidwaid
  • Cymorth parhaol i ddisgyblion wrth ddychwelyd i'r dosbarth cyfrwng Cymaeg

Poeni nad ydych chi'n siarad Cymraeg?

Peidiwch â phoeni! Mae’n holl ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynnig cefnogaeth wych i rieni a gwarcheidwaid sy’n siarad Saesneg. Mae llyfryn Bod yn Ddwyieithog y Cyngor yn trafod rhai pryderon cyffredin sydd gan rieni ar ddewis addysg Gymraeg a’r manteision ychwanegol o ddewis y daith yma. Mae’r llyfryn ar gael yma: Bod yn Ddwyieithog yn Rhondda Cynon Taf

Cysylltwch heddiw

Am fwy o wybodaeth ac unrhyw ymholiadau, cysylltwch a’r Garfan Drochi: TrochiIaith@rctcbc.gov.uk

Chwiliwch am ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg o fewn eich dalgylch.

Ystyried dysgu Cymraeg?

Er mwyn dod o hyd i gwrs sy’n addas i chi, ewch i wefan Dysgu Cymraeg am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt.