Mae'r prosiect hwn wedi darparu adeilad ysgol newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ar safle yr ysgol bresennol, sydd wedi disodli'r adeiladau hŷn, dros dro gydag amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf
Bydd gan yr adeilad newydd le i 480 o ddisgyblion (yn ogystal â disgyblion y dosbarth meithrin), a bydd yn cynnig amgylchedd o'r radd flaenaf sy'n cynnwys man canolog, ystafelloedd dosbarth y Meithrin hyd at Flwyddyn 6, prif neuadd a mannau ategol. Bydd yr adeilad yn cael ei weithredu'n Garbon Sero Net, gan gydymffurfio ag ymrwymiadau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru o ran y Newid yn yr Hinsawdd.
Yna dechreuodd y contractwr adeiladu, Morgan Sindall, Gam Dau'r prosiect – gan ganolbwyntio ar fannau awyr agored y datblygiad ehangach. Mae'r gwaith yma wedi cynnwys cael gwared ar yr holl adeiladau dros dro a dymchwel yr adeiladau hŷn a oedd yn weddill ar y safle. Mae hyn wedi agor y safle yn sylweddol, ac wedi darparu man agored mawr lle mae Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt wedi cael ei hadeiladu – yn ogystal â mannau caled a meddal, ystafell ddosbarth awyr agored, mannau i eistedd, maes parcio i staff ac ymwelwyr ac offer chwarae i'r disgyblion.
Cyflawni gwaith ardaloedd awyr agored yn cwblhau buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun (Medi 2025)
Cafodd yr ail gam yma o waith ei gwblhau ym mis Medi 2025, a hynny yn ôl yr amserlen, gan alluogi staff a disgyblion i ddefnyddio'r cyfleusterau awyr agored a chwblhau'r datblygiad cyffredinol.
Mae'r lluniau'n dangos y prif adeilad newydd, wedi'i gwblhau erbyn mis Mawrth 2025, yng Ngham Un y prosiect.
Mae'r lluniau isod yn dangos elfennau awyr agored y datblygiad, a gafodd eu cwblhau ym mis Medi 2025, yn rhan o Gam Dau'r prosiect.