Mae gwaith pwysig i wella'r ardaloedd awyr agored yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun bellach wedi'i gwblhau, gyda'r cyfleusterau newydd ar gael i'r staff a'r disgyblion. Mae hyn yn rhan o'r buddsoddiad sylweddol oedd yn cynnwys codi adeilad ysgol newydd o'r radd flaenaf, a gafodd ei agor yn gynharach eleni, diolch i gyllid sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
Cafodd gwaith adeiladu'r ysgol newydd ei gwblhau ym mis Mawrth 2025, gan ddarparu adeilad dau lawr newydd gyda chapasiti ar gyfer 480 o ddisgyblion, yn ogystal â lleoedd meithrin. Mae'r ysgol ym Mhont-y-clun bellach yn elwa o amgylchedd ddysgu o'r radd flaenaf, sy'n cwmpasu ardal ganolog, dosbarthiadau ar gyfer y Meithrin hyd at Flwyddyn 6, neuadd, a sawl ystafell ategol.
Mae'r adeilad wedi'i ddylunio i gael ei weithredu'n Garbon Sero Net, gan gydymffurfio ag ymrwymiadau'r Cyngor a Llywodraeth Cymru o ran y Newid yn yr Hinsawdd.
Mae'r contractwr Morgan Sindall bellach wedi bod yn canolbwyntio ar ail gam y datblygiad, er mwyn gwella ardaloedd awyr agored y safle yn sylweddol. Maen nhw wedi gwneud cynnydd sylweddol dros fisoedd yr haf, cafodd y gwaith ei gwblhau yn ddiweddar gyda phob ardal awyr agored yn cael eu trosglwyddo i ddwylo'r ysgol ddydd Mawrth, 9 Medi.
Mae cam dau wedi cynnwys cael gwared ar yr holl adeiladau dros dro a dymchwel yr adeiladau hŷn a oedd yn weddill ar y safle. Mae hyn wedi agor y safle yn sylweddol, ac wedi darparu man agored mawr lle mae Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt wedi cael ei hadeiladu – yn ogystal â mannau chwarae caled a meddal, ystafell ddosbarth awyr agored, mannau i eistedd, maes parcio i staff ac ymwelwyr ac offer chwarae i'r disgyblion.
Mae'r buddsoddiad mawr yma i'r gymuned yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd arian refeniw'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod ail gam buddsoddiad Ysgol Gynradd Pont-y-clun bellach wedi'i gwblhau, gan ddarparu ardaloedd awyr agored gwell sy'n ategu adeilad newydd ardderchog yr ysgol sydd wedi bod yn cael ei fwynhau gan ddisgyblion a staff ers mis Mawrth. Mae'r ardaloedd awyr agored yn darparu cyfleoedd chwarae a dysgu awyr agored gwell - nodwedd allweddol o'n hadeiladau ysgol newydd, gan sicrhau ein bod ni'n darparu ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru gyfan.
"Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth gwerthfawr gan Lywodraeth Cymru, er mwyn dod â chyfleusterau addysg modern i ragor o'n cymunedau. Yn 2024/25, cafodd prosiect Ysgol Gynradd Pont-y-clun ei ddarparu ar y cyd ag adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn - yn ogystal â buddsoddiad gwerth £79.9 miliwn mewn pedair ysgol uwchradd yn ardal ehangach Pontypridd.
"Wrth edrych ymlaen, mae gwaith adeiladu ysgol gynradd a hwb cymunedol yng Nglyn-coch yn barhaus yn rhan o Gronfa Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag ysgol anghenion dysgu ychwanegol rhwng 3 ac 19 oed yng Nghwm Clydach - yn rhan o'r gyfran nesaf o fuddsoddiad cyfalaf wedi'i gynllunio yn rhan o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae'r prosiectau yma sydd i ddod yn cynrychioli ymrwymiad i ariannu gwerth £414 miliwn yn ein hysgolion dros y naw mlynedd nesaf.
"Hoffen i ddiolch i bawb am wneud y buddsoddiad yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn bosib - o'n disgyblion ac aelodau staff wnaeth helpu i sicrhau bod bywyd ysgol yn parhau yn unol â'r drefn arferol yn ystod y cam adeiladu, ac i'n contractwr am ddarparu'r datblygiad trawiadol yma. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r ysgol yn fuan, i ddathlu'r prosiect llwyddiannus yma, y mae modd i'r gymuned fod yn falch ohono."
Wedi ei bostio ar 11/09/2025