Skip to main content

Cynyddu darpariaeth rhandiroedd yn Rhondda Cynon Taf 2025–2026

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i fodloni’r galw cynyddol am randiroedd. Nod y fenter ariannu yma yw ehangu mannau tyfu bwyd mewn ardaloedd o Gymru lle mae eu hangen fwyaf.

Ar gyfer prosiect eleni, bydd ymdrechion yn canolbwyntio ar Gwm Rhondda, lle bydd ardal a ddefnyddiwyd gynt ar gyfer pori yn cael ei hailddefnyddio i greu wyth man tyfu newydd. Mae disgwyl i brosiect Teras Evans ym mhentref Trealaw gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2026, gan sicrhau ei fod yn barod ar gyfer y tymor tyfu sydd i ddod.

Mae blaenoriaethau ariannu ar gyfer eleni yn cynnwys:

  • Adfer rhandiroedd diffaith
  • Sefydlu safleoedd rhandiroedd newydd

Yn ogystal â hyn, rhoddwyd ystyriaeth i:

  • Gwella hygyrchedd
  • Gwella diogelwch ar safleoedd
  • Cryfhau mesurau rheoli safleoedd
  • Hyrwyddo ailgylchu ac adnewyddadwyedd
  • Hybu bioamrywiaeth a pheillwyr

Yn rhan o'r broses gynllunio, caiff asesiadau ecolegol eu cynnal ym mhob ymweliad, cyn dechrau'r gwaith. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso coed, prysgoed a mannau glaswelltog i nodi unrhyw dystiolaeth o fywyd gwyllt. Bydd mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu ffawna lleol a'u cynefinoedd. Bydd archwiliadau gweledol rheolaidd hefyd yn digwydd drwy gydol y prosiect er mwyn sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt.

Er bod rhandiroedd yn cael eu defnyddio'n draddodiadol ar gyfer tyfu cnydau, blodau, neu weithgareddau hamdden, mae modd iddyn nhw hefyd gyfrannu'n gadarnhaol at iechyd a lles. Mae ehangu'r mannau yma'n bodloni’r galw cynyddol am randiroedd ac yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt trefol, gan gynnwys peillwyr, adar, draenogod, mamaliaid bach, ymlusgiaid ac amffibiaid.

Mae ymchwil gan Social Farms & Gardens wedi archwilio rhestrau aros rhandiroedd, gan ddatgelu bod galw sylweddol am rai safleoedd yng Nghymru, gydag unigolion yn aros blynyddoedd i gael mynediad at randir. Mae'r cyllid yma wedi'i ddyrannu'n strategol i fynd i'r afael â'r ardaloedd yma y mae galw uchel amdanyn nhw, yn gyntaf.

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r fenter yma'n meithrin cydnerthedd, diogelwch ac iechyd cymunedol trwy gynyddu'r ddarpariaeth o randiroedd yng Nghymru. Mae dull cydlynol yn sicrhau bod y cyllid yma'n cael ei ddarparu'n effeithiol.

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau am y prosiect sydd wedi'i gynllunio, ffoniwch ein carfan Rhandiroedd ar 01443 562 243 neu e-bostio rhandiroedd@rctcbc.gov.uk