Skip to main content

Rhandiroedd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru, i ateb y galw cynyddol am randiroedd. Gweld rhagor o fanylion

Nodwch i ddeiliaid plotiau presennol (14 Mawrth 2024)

Hoffen ni roi gwybod i chi bydd ffioedd a chostau ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys rhandiroedd, yn cynyddu 5%. Bydd y cynnydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2024. Bydd y cynnydd yma'n ymddangos yn anfoneb eich rhandir a fydd yn cael ei hanfon atoch yn ystod tymor yr haf 2024. 

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r hysbysiad yma, neu pe hoffech chi roi gwybodaeth i ni am eich rhandir, cysylltwch â ni.

Mae nifer gynyddol o bobl yn gweld y manteision o ddefnyddio rhandiroedd er mwyn tyfu eu bwyd eu hunain neu er mwyn cadw'n heini.

Darn o dir sy'n cael ei ddefnyddio gan unigolyn ar gyfer tyfu bwyd a garddio anfasnachol yw rhandir garddio. Mae rhandiroedd RCT yn amrywio o ran maint, siap a chyflwr. Mae rhentu rhandir yn golygu rhoi o'ch amser ac egni. Dyma ffordd gwych o gadw'n iach ym mhob tywydd ac mae rhentu rhandir yn aml yn arwain at ymdeimlad o gyflawniad, a'r cyfle i fwyta'n iach a chymdeithasu.

Mae rhandiroedd yn boblogaidd iawn, ond mae hyd y rhestr aros yn amrywio o safle i safle.  O bryd i'w gilydd, bydd gan rhai safleoedd rhandiroedd gwag neu restr aros fyr. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yn newid trwy gydol y tymor bob blwyddyn. 

Er mwyn gwneud cais am randir, rhaid i chi fyw yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd gwneud cais am hyd at 3 safle rhandir gwahanol.  Rhaid bod ar restr aros cyn derbyn cynnig am randir.

NODER: Nid Rhondda Cynon Taf yn unig sy'n berchen ar randiroedd. Mae Cynghorau Tref Lleol, Cynghorau Cymuned a sefydliadau neu unigolion preifat hefyd yn berchen ar randiroedd. Dylech chi ofyn am gyngor gan dirfeddiannwr / rheolwr y safle sydd o ddiddordeb i chi.

Manylion cyswllt ar gyfer Cynghorau Tref Lleol

Sut i wneud cais am randir:
Optional help text

Derbyn cynnig am randir

Os oes rhandiroedd gwag, bydd cynrychiolydd y safle yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd chi i ymweld â'r safle. Cewch chi gynnig rhandiroedd fel y maen nhw yn ystod eich ymweliad i'r safle.

Os ydych chi'n penderfynu derbyn rhandir, mae'n bosibl y bydd angen i chi lofnodi ffurflen cytundeb tenantiaeth.  Bydd Cynrychiolydd y Safle yn rhoi allwedd er mwyn agor giat y safle a byddwn ni'n anfon bil ar gyfer y rhandir. Byddwch chi wedi cytuno i dderbyn amodau Deddf Rhandiroedd 1950 ac unrhyw ganllawiau ac/neu Gyfansoddiad Cymdeithas y Rhandiroedd, os yw'n berthnasol.

Mae tymor y rhandiroedd yn dechrau ar 1 Ebrill a rhaid talu rhent ar gyfer y flwyddyn gyfan hyd at 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol.

Os ydych chi'n penderfynu peidio derbyn y cynnig, neu os nad oes modd i Gynrychiolydd y Safle cael gafael arnoch, bydd eich manylion yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr aros.

Telerau ac amodau defnyddio safleoedd rhandiroedd RhCTAppendix 1. RCT Allotments T&C- V9 10.09.24 welsh

O dan y ddeddfwriaeth newydd, mae pawb sy’n cadw dofednod (poultry) yng Nghymru a Lloegr angen eu cofrestru â DEFRA cyn dydd Mawrth 1 Hydref 2024. Mae hyn yn cynnwys unrhyw adar rydych chi'n eu cadw fel anifeiliaid anwes.

https://www.gov.uk/guidance/register-as-a-keeper-of-less-than-50-poultry-or-other-captive-birds.cy

Cysylltu â'r Cyngor 

Ffôn: 01443 425 001