Anghofiwch am ddiflastod gwyliau'r ysgol gyda mynediad hamdden am ddim yn unrhyw un o'n canolfannau hamdden yn ystod gwyliau'r ysgol.
Fel rhan o fenter nofio am ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru mae modd i bobl ifainc hyd at 16 oed - yn ogystal â'u rhieni neu gynhalwyr - fwynhau mynediad hamdden diderfyn am ddim gan gynnwys nofio a chwaraeon dan do (yn amodol ar argaeledd).
Cofiwch, os ydych chi'n hoff o'r gweithgareddau wedi'u cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol, rydyn ni'n cynnig prisiau aelodaeth Hamdden am Oes gostyngol i blant. Mae hyn yn cynnig mynediad diderfyn i'r gampfa, pwll nofio, dosbarthiadau a chwaraeon dan do ym mhob un o ganolfannau hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf!
Gweld gweithgareddau eraill sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol gyda chwaraeon RhCT
Mae amserlenni yn amrywio yn ôl gwyliau'r ysgol, felly cysylltwch â ni neu 'hoffi' ni ar Facebook i gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy'n cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r ysgol nesaf.
Pryd mae gwyliau'r ysgol nesaf?