Mae Canolfan Hamdden Sobell yn falch o groesawu ystod o glybiau a grwpiau allanol sy'n defnyddio'r ganolfan a'i chyfleusterau i ymarfer eu campau chwaraeon a gweithgareddau arbenigol neu gynnal dosbarthiadau penodol fel dawnsio a chrefft ymladd.
Gan eu bod nhw'n cael eu trefnu'n allanol, nid yw'r ganolfan yn gyfrifol am gadw lle ar gyfer y grwpiau a dosbarthiadau hyn, neu am daliadau. 
Dydy'r dosbarthiadau neu weithgareddau wedi'u cynnal gan grwpiau allanol ddim yn rhan o'r cynllun Aelodaeth Hamdden am Oes.
Cysylltwch â'r trefnwyr i gael y manylion diweddaraf ac i wirio argaeledd. Bydd y grwpiau yn rhoi’r newyddion diweddaraf i aelodau ynglŷn â phryd bydd sesiynau yn cael eu canslo.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau – gan gynnwys golff, cerdded, beicio, gymnasteg ac eraill – beth am gysylltu â charfan Chwaraeon RhCT?
Mae'r garfan wrth law i gynnig gwybodaeth a chyngor am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, ac mae'r wefan yn cynnwys cyfeirlyfr gwych sy'n caniatáu i chi ddod o hyd i weithgareddau a chlybiau lleol.
Mae Chwaraeon RhCT hefyd wrth law i helpu clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ystyried cychwyn neu estyn cyfleoedd chwaraeon trwy fanteisio ar ffrydiau ariannu, gwybodaeth a rhagor.
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwybodaeth Chwaraeon RhCT!
Sobell Leisure Centre external classes
| DYDD LLUN | AMSEROEDD | 
|---|
| Clwb Gymnasteg a Dawnsio Phoenix | 16:00 - 19:30 | 
| Clwb pêl-rwyd iau | 17:00 - 19:00 | 
| Cicfocsio Coreaidd i Blant 5 oed neu'n hŷn | 18:00 - 19:00 | 
| Cicfocsio Coreaidd i Oedolion | 19:00 - 21:00 | 
| Clwb Nofio Nexus | 18:00 - 20:00 | 
| Clwb crefft ymladd Krav Maga | 18:30 - 19:30 | 
| Clwb Pêl-rwyd Abercynon | 19:00 - 21:00 | 
| DYDD MAWRTH |  | 
|---|
| Clwb Gymnasteg a Dawnsio Phoenix | 16:00 - 18:00 | 
| Ballet (3 oed neu'n hŷn) | 16:30 - 19:30 | 
| Carate Shotokan (5 oed neu'n hŷn) | 19:00 - 21:00 | 
| DYDD MERCHER |  | 
|---|
| Clwb Gymnasteg a Dawnsio Phoenix | 16:00 - 18:00 | 
| Welsh Contact Karate Association (WCKA) Little Dragons (Age 4 - 7) | 17:00 - 18:00 | 
| "Little Dragons" WCKA (4-7 oed)WCKA | 18:00 - 20:00 | 
| DYDD IAU |  | 
|---|
| Clwb Gymnasteg Weston | 16:00 - 17:30 | 
| WWCKA (6-14 oed) | 18:00 - 19:00 | 
| WCKA (14 oed neu'n hŷn) | 19:00 - 21:00 | 
| Clwb Canŵ a Chaiac (iau) | 19:00 - 20:00 | 
| Carate Shotokan (5 oed neu'n hŷn) | 19:00 - 21:00 | 
| Clwb Campau Tanddwr | 19:00 - 20:00 | 
| Clwb Polo Dŵr Cwm Draig | 20:00 - 21:30 | 
| DYDD GWENER |  | 
|---|
| Clwb Gymnasteg Weston | 16:00 - 20:00 | 
| Dosbarth Rhedeg am ddim (7 oed neu'n hŷn) | 17:00 - 18:00 | 
| "Little Dragons" WCKA (4-7 oed) WCKA i Oedolion | 17:00 - 18:30 | 
| Clwb cic-focsio Coreaidd (iau, 5 oed neu'n hŷn) | 18:30 - 20:00 | 
| WCKA i Oedolion | 17:00 - 18:00 | 
| Clwb cic-focsio Coreaidd (Oedolion) | 18:00 - 20:00 | 
| Clwb Nofio Nexus | 19:00 - 21:00 | 
| DYDD SADWRN |  | 
|---|
| Rugby Tots (2 oed neu'n hŷn) | 09:00 - 13:00 | 
| Bale (3 oed neu'n hŷn) | 10:00 - 16:00 | 
| Beiciau Cydbwyso | 14:00 - 16:00 | 
| Dydd Sul |  | 
|---|
| Kung FU | 18:00 - 20:00 |