Skip to main content

Gwybodaeth Gyffredinol am Ganolfan Hamdden Tonyrefail

ORIAU AGOR Y GANOLFAN

(Nodwch, mae mynediad i'r dosbarthiadau a mynediad cyntaf/olaf i'r pwll nofio neu'r gampfa yn dibynnu ar amserlenni'r cyfleusterau penodol hynny, nid oriau agor y ganolfan).

DYDDIAU AMSEROEDD
Dydd Llun 08:15 - 20:00 
Dydd Mawrth 08:15 - 20:00 
Dydd Mercher 06:15 - 20:00 
Dydd Iau 10.15 - 20:00 
Dydd Gwener 06:15 - 12:00 &16:00 - 19:00 
Dydd Sadwrn 08:45 - 14:00
Dydd Sul 08:45 - 14:00

MYNEDIAD I'R GANOLFAN A'I CHYFLEUSTERAU

  • Mynediad â ramp wrth flaen yr adeilad.
  • Lifft i bob lefel.
  • Teclyn codi ar gyfer y pwll.

CYMORTH CYNTAF AC IECHYD A DIOGELWCH

  • Aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf ar y safle drwy'r amser.
  • Rhieni sy'n gyfrifol am eu plant drwy'r amser – rhaid dilyn y gymhareb pwll nofio.
Chi sy'n gyfrifol am eich eiddo personol yn y loceri neu rywle arall yn y ganolfan.

CYFLEUSTERAU NEWID

  • Ystafelloedd newid i ddynion, merched, ac i'r teulu - gyda chawodydd a sychwyr gwallt.
  • Ystafelloedd newid a chyfleusterau cawod i'r anabl.
  • Cyfleusterau newid cewynnau.

POLISI MYNEDIAD I'R PRIF BWLL

Rhaid i blant sydd dan 8 oed fod yng nghwmni fel a ganlyn:

  • 1 oedolyn yn gwmni i bob plentyn dan 5 oed.
  • 1 oedolyn yn gwmni i bob dau o blant rhwng 5 ac 8 oed.
  • Caiff plant 8 oed neu'n hŷn fynd i'r pwll heb gwmni.
Rydyn ni'n atgoffa rhieni/gwarcheidwaid bod rhaid i blant 8 oed neu'n hŷn ddefnyddio ystafelloedd newid sy'n briodol i'w rhyw. 

DYFNDER Y PWLL

Dyfnder y pwll yng Nghanolfan Hamdden Tonyrefail yw 1.0 - 3.0 metr. 

LLUNIAETH

Mae lle hyfryd i eistedd ger y dderbynfa gyda pheiriant sy'n gwerthu byrbrydau a diodydd.

CYFLEUSTERAU CYFARFOD

Mae neuaddau ac ystafelloedd ar gael ar gyfer achlysuron, cyfarfodydd neu gynadleddau. Am ragor o wybodaeth, lawrlwythwch ein canllaw prisoedd.