Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu nofio! Rydyn ni'n credu y dylai pawb gael y cyfle i ddysgu nofio a dod y nofiwr gorau y gallwch chi ei fod. Bydd gwneud y penderfyniad i ddysgu nofio fel oedolyn yn helpu i ddatblygu hyder, gallu a sgiliau yn y dŵr.
Mae dysgu nofio yn sgìl bywyd, ac mae modd gwella ansawdd bywyd trwy weithgarwch corfforol a chyflawni nodau – boed hynny'n cwblhau triathlon, ymuno â chlwb nofwyr elît, manteisio ar Gynllun Nofio am ddim i bobl 60+ neu fwynhau bod yn y dŵr gyda'r teulu a ffrindiau.
Pris
Aelodau Hamdden am Oes – Am ddim
Cost ‘talu wrth ddefnyddio’ – £7.30
Gostyngiadau - £4.55