Skip to main content

Gwersi Nofio i Fabanod a Phlantos Bach (SBLASH)

Mae ein gwersi nofio i fabanod a phlantos bach (SBLASH) yn ffordd berffiath i gyflwyno'ch plentyn i'r dŵr a datblygu ei hyder. Mae'r rhaglen o wersi yma yn rhoi cyfle i rieni a babanod/plantos bach dreulio amser hwyl gyda'i gilydd yn y pwll sy'n amgylchedd dysgu strwythuredig a diogel. Mae pob hyfforddwr RhCT yn gwbl gymwysedig. Bydd modd i'ch plentyn wneud cynnydd trwy'r 6 lefel yn ôl cyflymdra sydd orau iddo.

Nodwch: Bydd angen i blantos bach fod yng nghwmni oedolyn yn y dŵr oni bai bod yr hyfforddwr wedi dweud yn wahanol.

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer ein gwersi nofio i blant iau, ewch i'ch canolfan hamdden leol ar unrhyw adeg a llenwi ffurflen gais.

Bydd dewis gyda chi i sefydlu debyd uniongyrchol neu dalu am 10 sesiwn ymlaen llaw.

Edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin - Nofio

Olrhain eich cynnydd

Gallwch olrhain cynnydd wythnosol eich plentyn trwy ein  gwasanaeth porth. Bydd enwau defnyddiwr a chyfrineiriau yn cael eu rhoi i chi ar ôl i chi gofrestru.

Tystysgrifau a bathodynnau

Mae tystysgrifau a bathodynnau ar gael i'w prynu o'r ganolfan hamdden ar gyfer pob lefel sydd wedi'i chwblhau

Baby & Toddler
dydd mawrth amser
Canolfan Hamdden Abercynon 12:00 - 13:00
Canolfan Hamdden Sobell 12:00 - 14:00
Canolfan Hamdden Llantrisant   12:15 - 14:15
Canolfan Hamdden Sobell 15:30 - 16:00
Canolfan Hamdden Llantrisant 16:20 - 16:55
dydd mercher  
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda 15:00 - 16:00
Canolfan Hamdden Llantrisant 15:45 - 16:15
dydd iau 
Canolfan Hamdden Sobell 15:30 - 16:00
dydd sadwrn 
Canolfan Hamdden Llantrisant 08:45 - 12:10

Camau'r Rhaglen Sblash

Sblash 1

  • Mae'r oedolyn a'r plentyn yn ddiogel yn y dŵr ac wrth fynd i mewn i'r pwll ac allan ohono
  • Mae'r oedolyn a'r plentyn yn datblygu hyder yn y dŵr
  • Mae'r oedolyn wedi dysgu nifer o ffyrdd i afael ar y plentyn
  • Mae'r oedolyn yn annog y plentyn i symud yn y dŵr
 4 - 18
Mis

Sblash 2

  • Gallu neidio i mewn i'r pwll
  • Gwella sgiliau sgwlio, arnofio ac anadlu
  • Gleidio gyda'ch corff yn syth
  • Gallu nofio pellteroedd byr gan nofio ar eich blaen, nofio ar eich cefn a nofio broga neu bili-pala, hen gymhorthion.
4 - 18
Mis

Sblash 3

  • Mae'r plentyn yn gallu mynd i mewn i'r pwll ac allan ohono ar ei ben ei hun
  • Mae'r plentyn dechrau dysgu sut i ddefnyddio cymhorthion nofio ac offer eraill
  • Mae'r oedolyn a'r plentyn yn parhau i wella eu hyder yn y dŵr
  • Mae'r plentyn yn dechrau nofio'n annibynnol
Hyd at
2 flwydd oed

Sblash 4

  • Mae'r plentyn yn dysgu arnofio a throi yn y dŵr
  • Mae'r plentyn yn dysgu anadlu yn y dŵr
  • Mae'r oedolyn a'r plentyn yn magu hyder yn y dŵr
  • Mae'r oedolyn yn dysgu sut i roi cymorth i'w blentyn i annog nofio
18 mis hyd at dair mlwydd oed

Sblash 5

  • Mae'r plentyn yn neidio i mewn i'r pwll
  • Mae'r plentyn yn gwella technegau arnofio, gleidio ac anadlu
  • Mae'r plentyn yn nofio yn ei blaen a'i gefn, gyda chymhorthion
  • Ychydig iawn o gymorth mae rhaid i'r oedolyn ei roi i'w blentyn
18 mis hyd at dair mlwydd oed

Sblash 6

  • Mae'r plentyn yn hyderus yn y dŵr heb oedolyn
  • Mae'r plentyn yn gwella technegau arnofio, gleidio ac anadlu
  • Mae'r plentyn yn dechrau dysgu symudiadau sylfaenol gyda'i freichiau a'i goesau i symud yn y dŵr
3 mlwydd
oed +

Ar ôl cwblhau'r camau Sblash, mae modd i'ch plentyn symud ymlaen at y camau Tonnau (4 oed +).

Nodwch:  Canllawiau yw'r lefelau ac ystodau oedran uchod.