Fydd angen i mi ddod ag unrhyw beth i'r gwersi nofio?
- Gwisg nofio
- Gogls
- Tywel
- Potel o ddŵr (i'w hyfed ar ôl y wers)
Sicrhewch eich bod chi'n cyrraedd yn brydlon (15 munud cyn dechrau'r dosbarth yn ddelfrydol) fel bod amser gyda chi i newid a pharatoi am ddechrau'r dosbarth.
Pa ganolfannau hamdden yn cynnig gwersi nofio?
Pa mor hir fydd yn cymryd i'm plentyn ddysgu nofio?
Fel dysgu unrhyw sgìl newydd, mae'n cymryd amser ac mae pawb yn dysgu ar eu cyflymder eu hun. Os bydd eich plentyn yn treulio mwy o amser yn y pwll nofio tu allan i wersi, byddan nhw'n debygol o wella'n fwy cyflym. Mae ein porth nofio ar-lein yn caniatáu i hyfforddwyr gofnodi cynnydd. Mae modd i rieni/cynhalwyr fynd ar y porth i weld yr wybodaeth ddiweddaraf bob wythnos. Os ydy'r hyfforddwyr o'r farn bod eich plentyn yn ei chael hi'n anodd symud ymlaen at y cam nesaf, mae'n bosibl y byddan nhw'n awgrymu gwersi nofio un-wrth-un i'w helpu. (Mae cost ychwanegol am wersi un-wrth-un)
Beth sy'n digwydd os bydd fy mhlentyn yn cynhyrfu ac yn anfodlon cymryd rhan?
Mae hyn yn gyffredin iawn pan fydd plantos bach yn dechrau gwersi nofio. Mae pob hyfforddwr wedi cael hyfforddiant i ddelio â phlant ofnus a bydd rhywun wrth law i helpu. Rydyn ni'n argymell i chi fynd â'ch plentyn i'r pwll lle mae'n cael gwersi cyn y wers gyntaf fel ei fod yn gyfarwydd â'r amgylchedd.
Mae'n bosibl y bydd gan rai plant broblemau o ran hyder a byddan nhw'n cynhyrfu os nad oes modd iddyn nhw feistroli techneg neu nofiad. Eto, mae ein hyfforddwyr wedi'u hyfforddi i helpu i annog eich pletyn i oresgyn eu hofnau neu bryderon. Bydd ymarfer tu allan i wersi a defnyddio'r pwll yn rheolaidd yn helpu'ch plentyn i deimlo'n fwy cyfforddus yn y gwersi. Os hoffech chi unrhyw argrymiadau neu gyngor o ran annog neu atgyfnerthu technegau tu allan i'r gwersi, mynnwch air gyda hyfforddwr eich plentyn.
Beth sy'n digwydd os bydd fy mhlentyn yn sâl?
Byddwch yn bwyllog, ond os oes gan eich plentyn symptomau ffliw megis twymyn, chwydu neu broblemau treulio, peidiwch â dod â fe i'r pwll. Os oes annwyd ar eich plentyn neu os ydy e'n pesychu, mae modd iddo ddod i'r gwersi.
Os oes gan eich plentyn salwch neu anaf hirdymor sy'n golygu na fydd modd iddo ddod i wersi nofio, ffoniwch garfan Hamdden am Oes ar 01443 562204 ymlaen llaw a byddwn ni'n cadw'r lle nes bod y plentyn yn well, yn unol â thelerau ac amodau.
Os nad ydy fy mhlentyn yn hoffi'r gwersi ac dydy e ddim eisiau parhau â'r gwersi, fydd modd cael ad-daliad?
Bydd, ffoniwch garfan Hamdden am Oes ar 01443 562204 a byddwn ni'n hapus i'ch helpu.