Mae nifer o gyfleusterau chwaraeon a digwyddiadau chwaraeon yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y parc.
Bowlio
Mae Clwb Bowlio Aberdâr (a gafodd ei sefydlu ym 1969) wedi'i leoli ger y mynediad i'r parc ar Heol Glan. Mae'r tymor bowlio'n cychwyn ym mis Ebrill ac yn gorffen yng nghanol mis Medi.
Beth am eistedd a gwylio'r aelodau'n cystadlu yn erbyn clybiau lleol eraill gan fwynhau'r awyrgylch?
Neu beth am roi cynnig arni? Cysylltwch â'r clwb i ymuno â'r hwyl.
Tennis
Mae Clwb Tennis Aberdâr wedi'i leoli cyferbyn â'r maes parcio i bobl anabl ym Mharc Aberdâr. Cafodd y clwb ei sefydlu ym 1989, ac mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth ac mae'n cynnig amrywiaeth o sesiynau tennis i bobl o bob oed a gallu.
Oes gyda chi'r sgiliau i herio Andy Murray neu Serena Williams? Beth am ymuno â'r clwb yn ystod un o'i