Nid yw ‘Ffitrwydd Bygi’ ynghylch cerdded yn y parc yn unig!
Cyfle i fod yn ffit a rhoi awyr iach i’ch babi… Dewch gyda’ch bygi ac ymuno yn y dosbarth cerdded cyflym. Gyda chymysgedd o ymarferion cardio, cryfhau a thynhau, dyma’r ateb i gael gwared â’r pwysau ar ôl cael babi ac ail dynhau eich corff ar ôl rhoi genedigaeth.
Mae’r dosbarthiadau ym mharc Ynysangharad bob dydd Llun am 2.00pm a dydd Iau am 10.00am. Y gost am bedwar dosbarth yw £17.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 07772323829