Beth yw Parkrun Pontypridd?
Ras 5 cilomedr yw e – chi yn erbyn y cloc.
Pryd mae e?
Bob bore Sadwrn am 9:00am.
Ble mae e?
Mae’n cael ei gynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Bridge Street, Pontypridd, CF37 4PE. Gweld y cwrs a rhagor o fanylion ar y dudalen yma.
Beth yw’r gost?
Mae’n rhad ac am ddim! Ond cofiwch gofrestru cyn eich ras gyntaf. Dim ond unwaith sydd rhaid i chi gofrestru. Cofiwch ddod â chopi o’ch côd bar wedi’i argraffu (cliciwch yma i weld y côd). Os byddwch chi’n ei anghofio, fyddwch chi ddim yn cael eich amseru.
Pa mor gyflym bydd rhaid i mi redeg?
Rydyn ni’n rhedeg am hwyl. Dewch i ymuno â ni – does dim ots am eich cyflymder!
Mae ‘Parkrun’ Pontypridd eich angen chi!
Gwirfoddolwyr sy’n trefnu’r cyfan – anfonwch e-bost pontypriddhelpers@parkrun.com er mwyn rhoi help llaw.
Rydyn ni’n gyfeillgar!
Bob wythnos, rydyn ni’n mynd am goffi ar ôl y ras yng Nghaffi’r Prince’s (lan lofft), Taff Street, Pontypridd – bydd croeso mawr i chi ddod i ymuno â ni!
Ewch i www.parkrun.org.uk/pontypridd i gael rhagor o fanylion.