Gwersi tennis i oedolion a phlant ym Mharc Coffa Ynysangharad
Mae'r sesiynau yma ar gyfer ystod o oedrannau a gallwch chi fwynhau gwersi yn Saesneg, Cymraeg neu Saesneg a Chymraeg
- 4.15pm - 5pm: Gwersi dwyieithog i blant 4 - 6 oed
- 5pm - 6pm: Cymraeg yn unig i blant 7 - 12 oed
- 6pm - 7pm: Saesneg yn unig i blant 7 - 12 oed
- 7pm - 8pm bob dydd Llun tan ddiwedd mis Awst: Gwersi i oedolion
Mae'r parc yn darparu racedi a pheli os oes angen ond, yn amlwg, mae croeso i chi ddod â'ch offer eich hun os ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus.
Y gost ar gyfer gwersi tennis i oedolion a phlant yw £2.50
Cadwch le drwy ffonio'r parc ar 01443 490490
Cofiwch fod pedwar cwrt tennis mynediad agored i chi eu defnyddio a mwynhau drwy gydol y flwyddyn. Cewch chi chwarae yn rhad ac am ddim heb gadw lle ymlaen llaw - ond byddwch yn barod i aros eich tro os yw'n brysur.