Skip to main content
 

Ein gwaith

 

Mae ein Tîm Chwaraeon Cymunedol yn cynnig cefnogaeth i dros 350 o glybiau chwaraeon, grwpiau a sesiynau ledled RCT. Maent yn helpu timau a sesiynau newydd i gychwyn, yn gweithio gyda chlybiau a grwpiau presennol i gynyddu cyfranogiad, ac yn darparu arweiniad ar grantiau a chyllid. Yn ogystal, maent yn cynnig ystod eang o gymorth ychwanegol i helpu mwy o bobl i fod yn egnïol yn ein cymunedau lleol.

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk neu gweithiwch gyda'ch swyddog chwaraeon cymunedol.

     

Sbotolau - Gorffennaf 2026

Pêl-Droed Fflagiau Rhondda Red Kites: Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Flagiau Rhondda Red Kites i ddarparu cyfle chwaraeon newydd a chyffrous i oedolion, gan hyrwyddo'r gamp bêl-droed baner sy'n tyfu'n gyflym. Mae ein tîm Chwaraeon Cymunedol wedi chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi datblygiad y clwb o'i gamau cynharaf. Trwy ein Cynllun Achredu, derbyniodd y clwb arweiniad ar sefydlu strwythurau llywodraethu cryf, gan gynnwys creu cyfansoddiad, sefydlu pwyllgor ac agor cyfrif banc clwb. Darparodd y gefnogaeth hon y sylfeini oedd eu hangen i adeiladu clwb chwaraeon cymunedol cynaliadwy. Yn ogystal, sicrhawyd cyllid trwy ddau gam o Gronfa Chwaraeon Cymunedol, gan alluogi'r clwb i brynu offer, llogi cyfleusterau, deunyddiau marchnata, a hyfforddi hyfforddwyr gwirfoddol.

Dechreuodd y clwb gyda dim ond saith aelod ac mae bellach yn denu 14 o gyfranogwyr wythnosol rheolaidd, gyda chyfanswm aelodaeth o 19 o chwaraewyr a gwirfoddolwyr. Yn bwysig, dim ond pedwar aelod oedd â phrofiad blaenorol o bêl-droed Americanaidd, sy'n golygu bod y mwyafrif wedi ymuno fel dechreuwyr llwyr. Mae'r amgylchedd croesawgar wedi annog llawer o oedolion a oedd yn anactif o'r blaen i ddod yn egnïol yn rheolaidd. Gwyliwch y fideo yma i gael rhagor o wybodaeth.

Sbotolau - Chwefror 2026

Clwb Pêl-rwyd Hirwaun: Cafodd y clwb pêl-rwyd newydd yma ei sefydlu ym mis Hydref 2025 gan fam leol a oedd yn cael trafferth dod o hyd i glwb i'w merch. Gyda'n cymorth ni, llwyddodd y clwb i wneud cais am grant Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru a Chronfa Chwaraeon Cymunedol Chwaraeon RhCT, sydd wedi cefnogi'r clwb trwy roi offer ac addysg i'r hyfforddwyr. Dechreuodd y clwb, sy'n gweithredu o neuadd Chwaraeon Cymuned Rhigos, gydag un sesiwn i blant Blwyddyn 3 a 4. Mae cyfartaledd o 17 yn mynychu'r sesiynau yma bob wythnos, ac mae'r clwb bellach wedi sefydlu timau o dan 8 oed ac o dan 9 oed. Er mwyn cynnig cyfle i ragor o blant chwarae, mae'r clwb wedi ychwanegu sesiwn i blant bach yn ddiweddar. Mae dau hyfforddwr newydd wedi'u recriwtio i gyflwyno'r sesiwn ac mae 8 o blant newydd rhwng 4 a 7 oed wedi ymuno â'r hwyl. Mae'r clwb yn parhau i ddod yn fwyfwy poblogaidd yn y gymuned ac yn chwilio'n weithredol am noddwyr i helpu i ariannu cît chwarae newydd. Cliciwch yma i weld ein delweddau dylanwad.

Sbotolau - Ionawr 2026

Degawd o wobr Gwirfoddolwr y Mis Chwaraeon RhCT: Fe wnaethon ni lansio'n cynllun cydnabyddiaeth Gwirfoddolwr y Mis ym mis Ionawr 2016 er mwyn dathlu'r llu o wirfoddolwyr yn y gymuned sy'n sicrhau bod chwaraeon yn digwydd. Mae miloedd o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser a'u hegni bob wythnos i gefnogi cannoedd o glybiau chwaraeon a lleoliadau cymunedol. Mae'r clybiau a'r lleoliadau yma'n hanfodol o ran darparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i blant ac oedolion ledled Rhondda Cynon Taf. 

Y cyhoedd sy'n enwebu ac rydyn ni'n dewis enillydd teilwng bob mis. Mae'r enillydd yn derbyn tystysgrif a thaleb, ac rydyn ni'n defnyddio ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan ac ap i roi cydnabyddiaeth iddyn nhw. Dros gyfnod o ddeng mlynedd, rydyn ni wedi derbyn dros 300 o enwebiadau ac mae 101 o wirfoddolwyr wedi cael eu cydnabod ar draws 25 o wahanol chwaraeon. Cliciwch yma i weld ein delweddau dylanwad.

Sbotolau - Gorffennaf 2025

Cronfa Chwaraeon yn y Gymuned – Academi Dartiau Trebanog: Cysylltodd John o Academi Dartiau Trebanog â ni yn gofyn am gymorth i sefydlu academi dartiau newydd i chwaraewyr iau. Roedd eu sesiwn blasu gyntaf wedi denu 15 o bobl ifanc o'r gymuned leol. Doedd dim llawer o offer gyda’r clwb, ac roedden nhw’n gwybod nad oedd digon o offer gyda nhw ar gyfer aelodau newydd. Fe wnaethon ni weithio gyda John i’w helpu i wneud cais am gymorth gan y Gronfa Chwaraeon yn y Gymuned. O ganlyniad, llwyddodd yr Academi i sicrhau cyllid gwerth £600 sydd wedi galluogi’r clwb i brynu ystod eang o ddartiau ar gyfer yr aelodau newydd fel bod modd iddyn nhw roi cynnig ar y gamp a'u defnyddio. Ers hynny, mae 32 o bobl ifainc wedi ymuno â’r Academi ac yn mynychu sesiynau wythnosol. Cliciwch yma i weld ein delweddau dylanwad.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas