Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd
Dewiswch yr Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd ar y dudalen nesaf
Beth yw codi posteri anghyfreithlon?
Mae codi posteri anghyfreithlon yn golygu codi posteri, baneri, arwyddion ac ati heb ganiatad neu mewn lleoliadau heb awdurdod. Mae'n amrywio o bosteri yn hysbysebu cyngherddau pop, hysbysiadau am gelfi rhad neu faneri yn dathlu pen-blwydd neu ben-blwydd priodas.
Mae codi posteri yn anghyfreithlon, yn hyll ac yn weithgaredd gwrth-gymdeithasol sy'n creu argraff negyddol o'r ardal. Gall codi posteri anghyfreithlon hefyd fod yn weithgaredd peryglus. Gall baneri ar ymyl y ffyrdd neu arwyddion heb awdurdod dynnu sylw gyrwyr.
Beth mae'r Cyngor yn ei wneud am y mater?
Rydyn ni'n ceisio cael gwared â phosteri anghyfreithlon cyn pen tridiau o dderbyn cŵyn. Er mwyn cael gwared ar graffiti'n gyflym, mae tair carfan ymateb brys ar waith. Mae'r unedau hyn hefyd yn cael gwared ar bosteri anghyfreithlon a gwm cnoi.
Lle mae'n bosib, rydyn ni'n erlyn pobl sy'n codi posteri anghyfreithlon.
Sut mae rhoi gwybod am broblem codi posteri anghyfreithlon?
Hoffech chi roi gwybod i ni am bosteri anghyfreithlon? Defnyddiwch y manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd
Gwasanaeth Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310
Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys:
- Beth yw natur y posteri anghyfreithlon?
- Ai poster ar wal, baner wrth ymyl y ffordd, arwydd hysbysebu ac ati?
- Ble mae'r posteri anghyfreithlon?
- Ai poster ar adeilad, wal, rheiliau, ar arwydd sydd yno'n barod, ar gylchfan ac ati?
- A welsoch chi pwy oedd yn codi posteri anghyfreithlon?
Os gwelsoch chi'r person / pobl oedd yn codi poster, baner neu arwydd yna rhowch y manylion canlynol i ni:
- Pryd digwyddodd yr achos?
- Pa ddiwrnod oedd hi? Faint o'r gloch roedd hi? Beth oedd y dyddiad?
- Beth welsoch chi?
- Faint o bobl oedd yno?
- Ydych chi'n gallu eu disgrifio nhw?
- Beth oedden nhw'n ei wneud?
- Oedd unrhyw gerbydau ganddyn nhw?
- Beth oedd lliw, gwneuthuriad a rhif cofrestru'r cerbyd?
- Oedd enw cwmni neu unrhyw ysgrifen arall ar unrhyw gerbyd?
- Ble roeddech chi?
- Pa mor agos roeddech chi?
- Oeddech chi'n gallu gweld yn glir?
- Sut dywydd roedd hi?
- Pa mor olau oedd hi?
Ydych chi'n barod i'n helpu ni i ddwyn achos yn erbyn pobl sy'n difrodi eiddo trwy wneud datganiad am y digwyddiad?