Mae sbwriel mewn mannau cyhoeddus yn beth hyll. Mae'n peri perygl i anifeiliaid, ac mae'n drosedd.
DMae modd ichi roi gwybod am fin sbwriel sydd wedi'i ddifrodi ar-lein
Mae sbwriel yn amrywio mewn maint, o bapur losin, i lond bag o sbwriel. Yn ôl Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, os bydd person yn taflu, gollwng, tipio, neu adael unrhyw beth sy’n anharddu man cyhoeddus, maen nhw’n troseddu. Felly ceisiwch ddefnyddio bin sbwriel neu ewch ag e adref gyda chi.
Helpwch ni i wella - peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol neu ariannol, e.e. eich Rhif Yswiriant Gwladol neu fanylion cerdyn credyd.
Rhowch reswm ac unrhyw awgrymiadau o ran ein cynorthwyo i wella y dudalen we.