Skip to main content

Talu Dirwy Amgylcheddol (Hysbysiad Cosb Benodedig)

Mae Hysbysiad Cosb Benodedig yn cael ei roi i rywun sy'n cyflawni trosedd amgylcheddol. Os ydyn nhw'n derbyn eu bod nhw wedi cyflawni trosedd ac yn talu'r ddirwy, ni fydd gofyn iddyn nhw fynd i'r llys, a ni fydd yr achos yn cael ei gofnodi’n drosedd.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Hysbysiadau Cosb Benodol yn cael eu cyflwyno am y troseddau Amgylcheddol canlynol:

Nodwch: byddwn ni'n defnyddio system dalu newydd ar gyfer pob dirwy sy'n cael ei chyhoeddi ar neu ar ôl 1 Hydref 2025. O ganlyniad hyn, byddwn ni'n cynnal dwy system dalu hyd nes y bydd pob dirwy sydd wedi'i chyhoeddi cyn y dyddiad yma wedi'i thalu.

Gwiriwch nifer y digidau yng nghyfeirnod eich Hysbysiad Cosb Benodedig wrth ddewis y system gywir pan fyddwch chi'n talu.

Talu Hysbysiad Cosb Benodedig

Mae modd i chi dalu Hysbysiad Cosb Benodedig ar-lein.

Os ydych chi’n talu dirwy a gafodd ei chyhoeddi cyn 1 Hydref (sy’n cynnwys cyfeirnod 10 digid):

Talu Hysbysiad Cosb Benodedig sy’n cynnwys cyfeirnod 10 digid

Os ydych chi’n talu dirwy a gafodd ei chyhoeddi ar ôl 1 Hydref (sy’n cynnwys cyfeirnod 16 digid):

Talu Hysbysiad Cosb Benodedig sy’n cynnwys cyfeirnod 16 digid

* Sicrhewch eich bod chi'n clicio ar y botwm ‘CYFLWYNO’ ar waelod y dudalen cadarnhau taliad, bydd methu â gwneud yn golygu NA FYDD eich taliad yn cael ei brosesu ac felly fydd yr hysbysiad cosb benodedig DDIM yn cael ei dalu.