Cyn gwyliau banc, gwyliau tymhorol neu dywydd garw, fe wnawn ni ein gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y dudalen yma, gan gynnwys y sefyllfa o ran gwasanaethau'r Cyngor sydd ar gael, a'r ffyrdd a'r ysgolion sydd ar gau.
I gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ni ar X ac ar Facebook
Oriau Agor dros Wyliau Banc y Pasg 2026
Bydd y Cyngor, gan gynnwys y Ganolfan Alwadau i Gwsmeriaid AR GAU o ddydd Gwener 3 Ebrill tan 9am fore Mawrth 7 Ebrill, 2026 – mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth heblaw am argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa a rhai gwasanaethau hanfodol. Os nad ydych chi'n gweld yr adran rydych chi'i heisiau isod, trowch at y tudalennau neu wefannau unigol am wybodaeth ynglŷn â'i horiau agor dros Ŵyl y Banc.
Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan ddydd Mawrth 7 Ebrill 2022 pan fydd swyddfeydd yn ailagor am 9am.
Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng
Gwastraff ac Ailgylchu
Does DIM NEWIDIADAU i'ch casgliadau Ailgylchu a Gwastraff dros Ŵyl y Banc, felly gadewch eich eitemau yn eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu arferol. Mae hyn yn berthnasol i BOB casgliad ailgylchu, gan gynnwys cewynnau, bwyd a bagiau ailgylchu CLIR.
Mae modd dod o hyd i fanylion LLAWN ar y tudalennau yma
Cofiwch ailgylchu plisg eich WYAU dros y Pasg – hyd yn oed y rhai sydd ddim wedi'u gwneud o siocled!
Mae mwy na 12.8 BILIWN o wyau'n cael eu bwyta yn y DU bob blwyddyn – sy'n golygu bod modd ailgylchu hyd at 12.8 BILIWN o blisg wyau mewn cadis gwastraff bwyd ledled Prydain Fawr!
Mae hynny'n gyfle gwych i greu 'm-WY' o ynni allan o'n gwastraff bwyd.
Cofrestrwch yma: Cadi Gwastraff Bwyd
Mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor o 8.30am tan 6.30pm bob dydd, gan gynnwys dydd Gwener y Groglith, Sul y Pasg a dydd Llun Gŵyl y Banc.
Ewch i'r tudalennu ailgylchu am wybodaeth gyffredinol am ailgylchu, gan gynnwys dod o hyd i'ch diwrnod casglu a chanllawiau clir am yr hyn mae modd ei ailgylchu.
Gofal Cymdeithasol
Os oes angen i chi gysylltu ag aelod o'r Garfan Gofal Cymdeithasol ar frys dros gyfnod y Pasg, defnyddiwch y rhifau ffôn canlynol:
- Materion Gofal Cymdeithasol Brys tu allan i oriau'r swyddfa, gan gynnwys y Pasg, penwythnosau a gwyliau banc: 01443 743665.
I'r rheiny sydd angen cysylltu â'u darparwr gwasanaeth uniongyrchol dros benwythnos Gŵyl y Banc, cysylltwch â'r darparwr yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt y mae wedi'u darparu.
Prydau yn y Gymuned (Pryd-ar-glud)
Bydd y garfan Prydau yn y Gymuned yn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth dros gyfnod y Pasg ac mae'r fwydlen wedi'i dosbarthu er mwyn archebu ymlaen llaw lle bo angen.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau yma.
Digartrefedd
Mae gwybodaeth a chyngor ar gael ar dudalen digartrefedd ein gwefan.
Nodwch, bydd y Gwasanaeth Datrysiadau Tai ar gau o 4pm ar 2 Ebrill 2026 a bydd y swyddfa'n ailagor am 9am fore Mawrth 7 Ebrill 2026.
Bydd gwasanaeth brys y tu allan i oriau'r swyddfa ar gael ar 01443 425011. Fodd bynnag, dim ond argyfyngau sy'n golygu does dim llety ar gael i rywun fydd yn cael eu trin trwy'r gwasanaeth tu allan i oriau yma.
Bydd yr holl ymholiadau eraill o ran tai a digartrefedd yn cael sylw pan fydd y swyddfa'n ailagor fore Mawrth 7 Ebrill 2026.
Y Swyddfa Gofrestru
Bydd y Swyddfa Gofrestru, Adeiladau'r Cyngor, Pontypridd, AR GAU o 4pm ar 2 Ebrill 2026 a bydd hi'n ailagor am 9am fore Mawrth 7 Ebrill 2026 ar gyfer derbyn ceisiadau/rhoi tystysgrifau.
Os yw'r swyddfa ar gau ac mae gyda chi ymholiad brys, ffoniwch ein gwasanaeth tu allan i oriau'r swyddfa ar 01443 425001.
Mynwentydd a Gwasanaethau Profedigaethau
Bydd y brif swyddfa (Glyn-taf) AR GAU o 4pm ar 2 Ebrill 2026 a bydd hi'n ailagor am 9am fore Mawrth 7 Ebrill 2026.
Ar hyn o bryd, does dim newidiadau ar gyfer tir y Mynwentydd dros Ŵyl Banc y Pasg.
Ambell waith, mae amgylchiadau eithriadol yn codi pan fydd rhaid inni gau mynwentydd i gerbydau ar fyr rybudd.
Os bydd angen cau ffyrdd i gerbydau i mewn i fynwent, caiff hysbysiad ei osod ar gatiau'r fynwent a fydd yn rhoi gwybod i'r cyhoedd. Cyn gynted ag y bydd yn ddiogel, caiff gatiau'r fynwent i gerbydau eu hagor.
Mae modd i gerddwyr ymweld â'r fynwent hyd yn oed pan fydd ffyrdd i gerbydau wedi'u cau. Er hynny, bydden ni'n argymell yn gryf i bobl fod yn ofalus pan fyddan nhw'n ymweld â'n mynwentydd pan fydd y tywydd yn arw ac i sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas er mwyn osgoi cwympo ac anafiadau.
Toiledau Cyhoeddus
Pob toiled – ar AGOR ddydd Gwener 03/04/26 ac ar gau ddydd Llun 06/04/26.
Mae modd bwrw golwg ar fanylion llawn a lleoliadau'r cyfleusterau yma – Toiledau Cyhoeddus.
Canolfannau Hamdden
I weld pryd mae'ch Canolfan Hamdden leol ar agor, dilynwch @RCTLeisureService ar Facebook ac Instagram, neu mae modd chwilio am y Ganolfan dan sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.
Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Bydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda:
- Ar gau ddydd Gwener y Groglith (3 Ebrill), Sul y Pasg a dydd Llun y Pasg (6 Ebrill).
- Ar agor yn ôl yr arfer ddydd Sadwrn y Pasg.
- Ewch i wefan Taith Pyllau Glo Cymru neu ddilyn @RhonddaHeritagePark ar Facebook am fanylion achlysuron ac oriau agor.
Lido Cenedlaethol Cymru – Lido Ponty
Ewch i wefan Lido Ponty neu dilynwch @LidoPonty ar X a Facebook am fanylion gweithgareddau ac oriau agor.
Llyfrgelloedd
Bydd llyfrgelloedd yn agor yn ôl eu horiau arferol ar 2 Ebrill 2026. Byddan nhw'n ailagor am 9am fore Mawrth 7 Ebrill 2026.
Manylion am Wasanaethau'r Llyfrgelloedd
Cyfleuster Cymuned Gilfach-goch
Bydd y Cyfleuster AR GAU o 4pm ar 2 Ebrill 2026 a bydd yn ailagor am 9am fore Mawrth 7 Ebrill 2026.
RhCT Gyda'n Gilydd - Helpu Cymunedau a Thrigolion i Ffynnu | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Canolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg
Bydd Canolfan Dysgu Gydol Oes Garth Olwg AR GAU o 4pm ar 2 Ebrill 2026 ac yn ailagor am 9am fore Mawrth 7 Ebrill 2026.
Ewch i www.gartholwg.org am ragor o wybodaeth.
Gwasanaeth Cyngor IBobUn
Bydd swyddfeydd y Gwasanaeth IBobUn yn agor yn ôl eu horiau arferol ar 2 Ebrill 2026. Byddan nhw'n ailagor am 9am fore Mawrth 7 Ebrill 2026.
Trefnwch apwyntiad ar ôl cyfnod y Pasg yma
Parc Gwledig Cwm Dâr
Mae modd dod o fyd i fanylion llawn am y cyfleuster yma – Parc Gwledig Cwm Dâr
- Caffi Cwtsh – mynnwch olwg ar dudalen Facebook Caffi Cwtsh i gael y newyddion diweddaraf.
Theatrau
Ewch i wefan Theatrau RhCT a dilyn @ColiseumTheatreAberdare @ParkandDare ar Facebook am fanylion.
Cau Ysgolion a Chludiant Ysgol
Mae pob ysgol AR GAU ar gyfer Gwyliau'r Pasg o ddydd Llun 30 Mawrth (yn amodol ar ddyddiau HMS sydd wedi'u trefnu ymlaen llaw).
- Bydd ysgolion yn ailagor ddydd Llun 13 Ebrill 2026 (yn amodol ar ddyddiau HMS sydd wedi'u trefnu ymlaen llaw).
Dilynwch y dolenni isod i fwrw golwg ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion sy wedi'u cau, amserlenni tymhorau'r ysgolion a chludiant ysgol.
Ffyrdd ar Gau
Dyma'r tudalennau ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd sydd ar gau -
Meysydd Parcio
Mae modd dod o hyd i wybodaeth am Feysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor ar y tudalennau yma.
Nodwch: Mae meysydd parcio'r Llyfrgell, Y Stryd Las, Stryd y Dug a Stryd Fawr Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr (pedair awr ar y mwyaf).
Mae Maes Parcio Aml-lawr Stryd y Santes Catrin ym Mhontypridd ar gau ar ddydd Sul a Gwyliau'r Banc.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Bydd modd i drigolion deithio ar fysiau'n rhatach unwaith eto, gyda phob taith sengl sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf yn costio dim mwy na £1.50. Bydd y cynnig yma ar gael yn ystod pythefnos gwyliau'r Pasg ym mis Ebrill 2026.
Cysylltwch â'r cwmnïau perthnasol yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth am newidiadau i wasanaethau yn ystod cyfnod y Nadolig ac yn ystod tywydd garw.
Cysylltu â'r Cyngor mewn Argyfwng:
Er gwybodaeth i bob preswylydd, mae modd cysylltu â'r Cyngor os bydd argyfwng dros Ŵyl y Banc drwy ffonio 01443 425011, tu allan i oriau gweithio neu os bydd tywydd garw, o fore gwyn tan nos, saith diwrnod yr wythnos.