Skip to main content

Cadw Rhondda Cynon Taf yn Ddiogel yn ystod Tywydd Gaeafol

gritter

Mae'r gaeaf wedi cyrraedd, a chyda'r tywydd wedi oeri, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud popeth o fewn ei allu i gadw'r prif ffyrdd ar agor a sicrhau bod modd i bawb i deithio. 

Dim ond y penwythnos diwethaf, roedd ein criwiau Priffyrdd allan ar shifftiau nos a dydd, yn trin y prif lwybrau o amgylch ein Bwrdeistref Sirol ac yn taenu tua 1,000 tunnell o halen craig drwy’r penwythnos oherwydd y gostyngiad yn y tymheredd a’r eira a’r rhew a gafwyd mewn rhai ardaloedd.

Sut rydyn ni'n trin ein ffyrdd drwy fisoedd y gaeaf

Dros nos, pan mae'r ffyrdd yn dawelach a'r rhan fwyaf ohonoch chi'n glyd yn eich gwlâu, mae cerbydau graeanu'r Cyngor yn teithio ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol yn taenu prif lwybrau'r ardal! 

Ar gyfer y strydoedd cefn na all cerbydau mawr y Cyngor eu cyrraedd, mae mwy na 1,200 o finiau halen craig hunangymorth yn cael eu darparu mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol i helpu trigolion i drin eu hardaloedd eu hunain yn ddiogel. Mae'r biniau yma'n cael eu monitro'n rheolaidd a'u hail-lenwi pan fo angen, yn enwedig ar ôl cyfnod o dywydd garw.

Biniau Halen Craig - Gofynnwch am ail-lenwi bin, bin newydd neu amnewid bin ar-lein 

Mae Carfan Ymateb Tu Allan o Oriau’r Cyngor hefyd yn teithio ledled y Fwrdeistref Sirol pryd bynnag bydd disgwyl tywydd garw, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig, ar Noswyl Nadolig, Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan os oes angen. 

Mae modd i hyn olygu trin y prif rwydwaith ar draws y Fwrdeistref Sirol, trin meysydd parcio'r Cyngor a thrin llwybrau uwch, yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr amodau disgwyliedig. 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Gofal y Strydoedd: “Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae’r tywydd yn troi’n llawer oerach, gyda mwy o berygl o eirlaw, eira ac amodau rhewllyd. Ond trwy gydol y cyfnod yma, bydd carfanau Gofal y Strydoedd a Phriffyrdd y Cyngor yn gwneud eu gorau i gynnal a chadw ein priffyrdd ar gyfer modurwyr, yn aml dan yr amodau mwyaf heriol. 

“Bydd ein criwiau allan yn gweithio pryd bynnag y bo angen, gan gynnal a chadw’r llwybrau ar draws Rhondda Cynon Taf, ddydd a nos, yn aml tra bod llawer ohonom ni'n cysgu yn ein gwelyau, yn aml ar benwythnosau, a hyd yn oed dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd os oes angen. 

"Serch hynny, er bod ein priffyrdd yn cael eu trin â halen, mae hi'n bwysig bod gyrwyr yn cofio nad yw halen ei hun yn ddigon. Rhaid i yrwyr hefyd bwyllo a gyrru'n ofalus, gan gofio am gyflwr y ffordd pan fydd y tywydd yn aeafol. 

"Dydy'r ffaith ein bod ni wedi trin y ffyrdd ddim yn golygu nad oes modd i geir lithro arnyn nhw, ac un o'r prif broblemau y mae ein staff yn ei wynebu bob blwyddyn yw pan fydd cerbydau'n goddiweddyd ein lorïau wrth iddyn nhw drin y ffyrdd. 

"Rydyn ni'n annog pob gyrrwr i arafu a bod yn amyneddgar, gan gydnabod y gwaith mae ein criw yn ei wneud ar eu rhan wrth drin y rhwydwaith. Rydyn ni hefyd yn gofyn i fodurwyr fod yn ystyriol wrth barcio ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Ceisiwch osgoi parcio dwbl os yn bosibl a chadwch y cyffyrdd yn glir er mwyn i’n cerbydau mawr allu mynd drwodd.”

Mae fflyd y Cyngor yn cynnwys 10 cerbyd graeanu rheng flaen, 10 cerbyd yn yr ail reng, gyda rhawiau eira ar gael, dau gerbyd llwytho eira, 13 o gerbydau cyffredinol ac 8 cerbyd 4x4. Hefyd, mae tua 40 o gerbydau tipio ar gael i'w defnyddio mewn argyfyngau yn ystod tywydd garw. 

Mae'r holl gerbydau'n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ynglŷn â thaenu halen craig, yn ogystal â meddalwedd olrhain a systemau monitro halen, sy'n fodd i'r Cyngor raglennu'r cerbydau yn fanwl gywir, gan ddibynnu ar y llwybr a'r amodau sydd ohoni. "Bydd hyn yn golygu bod modd defnyddio’r halen craig yn fwy effeithlon ac effeithiol, lleihau costau a'r effaith ar yr amgylchedd y mae'r halen yn ei chael ar ein Bwrdeistref Sirol.

Mae'r Cyngor yn cynnal ei Wasanaeth Gaeafol blynyddol rhwng 1 Hydref a 30 Ebrill. Mewn taith taenu halen er mwyn atal peryglon ar y prif lwybrau, bydd staff yn teithio 267 o filltiroedd – sy'n cyfateb i daith o Bontypridd i ddinas Birmingham ac yn ôl! 

Caiff rhwng 50 a 70 tunnell o halen craig ei daenu, gan ddibynnu ar ba mor arw yw'r tywydd. 

Er mwyn i'r halen craig fod yn effeithiol, rhaid iddo gael ei osod ar y ffordd gan ein cerbydau, a chael ei wasgu gan gerbydau eraill, sy'n peri iddo doddi. Mae halen craig yn llai effeithiol pan fo'r tymheredd yn is na -5C. 

Rydyn ni hefyd yn darparu biniau halen craig hunanwasanaeth er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd drin priffyrdd a llwybrau cyhoeddus. Peidiwch â'u defnyddio i drin tramwyfeydd/lleiniau parcio preifat. Yn ogystal â hynny, cofiwch gysylltu ag aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion sy'n oedrannus neu'n fregus er mwyn sicrhau eu bod nhw'n ddiogel. 

Mae ymgyrch Cofiwch Eich Cymdogion yn annog preswylwyr i helpu'i gilydd os yw'n ddiogel gwneud hynny, yn enwedig yn ystod cyfnodau o eira trwm. Mae'r ymgyrch yn hyrwyddo nifer o gamau bach mae modd i 'gymdogion da' eu gwneud yn ystod cyfnod o dywydd garw. 

Yn ystod misoedd y gaeaf, rydyn ni'n cynghori gyrwyr i wylio a gwrando ar ragolygon tywydd ar y teledu a'r radio, ac i ddilyn cyfrifon Twitter a Facebook y Cyngor. Cofiwch hefyd adael digon o amser i deithio.  

Rydyn ni hefyd yn gofyn i drigolion gadw llygad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion a gwasanaethau lleol. 

Darllenwch Gynllun Gweithredol Gwasanaeth Gaeaf y Cyngor

I nodi unrhyw broblemau ar ôl 5pm neu ar y penwythnos, ffoniwch Garfan y Tu Allan i Oriau Arferol y Cyngor ar 01443 425011.

Wedi ei bostio ar 16/12/22