Skip to main content

Cliciwch neu Ffoniwch a Byddwn ni'n Casglu Eich Gwastraff Gwyrdd Gaeafol!

Cyn bo hir bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwella ei Gasgliadau Gwastraff Gwyrdd yn ystod y Gaeaf presennol drwy gynnig gwasanaeth NEWYDD, rhad ac am ddim, pwrpasol yn ystod cyfnod llai prysur y gaeaf (Tachwedd – Mawrth).

O 30 Hydref, 2023, y cyfan y bydd angen i breswylwyr sydd wedi’u cofrestru ei wneud yw mynd ar-lein neu ffonio i drefnu casgliad gwastraff gwyrdd a byddwn ni'n ei gasglu o ymyl y ffordd.

Yn ystod y gaeaf mae'r Cyngor yn casglu gwastraff gwyrdd gan 12% o aelwydydd sydd wedi'u cofrestru yn unig. Bydd y system cadw lle 'ar-lein neu ffonio' newydd yn sicrhau bod carfanau casglu dim ond yn mynd i aelwydydd sydd wedi trefnu casgliad, gan leihau nifer y teithiau diangen, costau tanwydd ac allyriadau carbon.

Mae defnydd y Cyngor o blastigion untro wedi lleihau yn aruthrol ers cyflwyno sachau gwyrdd cynaliadwy mae modd eu defnyddio yn 2021 – rydyn ni bellach yn defnyddio 3 miliwn o fagiau plastig yn llai y flwyddyn. Mae'r newidiadau yma yn gwneud ein gwasanaethau yn fwy 'gwyrdd'.

Yr unig beth mae rhaid i chi ei wneud yw parhau i roi eich gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu yn y sachau amlddefnydd GWYRDD a mynd ar-lein neu ffonio pan rydych chi angen trefnu casgliad!

O'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 30 Hydref, bydd y Cyngor yn gwella ei gasgliadau ailgylchu gwastraff gwyrdd yn ystod y gaeaf trwy gynnig gwasanaeth trefnu casgliadau am ddim ac wedi'i deilwra drwy gydol misoedd y gaeaf i aelwydydd sydd wedi'u cofrestru. Yna, yn ôl yr arfer, bydd eich gwastraff yn cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu deunyddiau i’w hailgylchu presennol.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ond hoffech chi ddechrau cael casgliadau, mae hi'n gyflym ac yn hawdd cofrestru. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd neu ffonio 01443 425001. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd.

Mae bagiau ychwanegol ar gael ond byddan nhw'n costio £3 yr un.

Bydd modd defnyddio'r sachau gwastraff gwyrdd ar gyfer glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas a gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. FYDD y Cyngor DDIM yn casglu pridd, rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif / gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a gwasarn cathod. RHAID PEIDIO â gorlenwi'r sachau.

Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn derbyn gwastraff gwyrdd i’w ailgylchu, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Rhaid ei ollwng yn rhydd i'r cynhwysydd sydd ar gael. Bydd Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn gweithredu yn unol ag oriau agor y gaeaf (8am-5.30pm) o ddydd Llun 30 Hydref.

Nodwch: Fydd gwasanaeth casglu Gwastraff Gwyrdd yn ystod y Gaeaf ddim ar gael rhwng dydd Llun 25 Rhagfyr a dydd Llun 15 Ionawr 2024.

Bydd modd trefnu casgliadau coed Nadolig go iawn o fis Rhagfyr. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig er mwyn trefnu casgliad. Mae’r gwasanaeth yma'n wahanol i'r gwasanaeth ailgylchu gwastraff gwyrdd yn ystod y gaeaf.

Meddai Steve Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Gofal y Strydoedd:

“Bydd y newidiadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor ac yn dod â ni yn nes at ein nod o ailgylchu 70% o'r holl wastraff sy'n dod o'n cartrefi erbyn 2024/25. Bydd y newid bach yma hefyd yn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd teithiau'r gwasanaeth. Gobeithio y bydd trigolion yn ymuno â ni i wneud gwahaniaeth yn lleol ac yn fyd-eang."

Bydd casgliadau yn dychwelyd i'r drefn wythnosol yn ystod misoedd yr haf o ddydd Llun 18 Mawrth 2024. Bydd preswylwyr sydd wedi’u cofrestru yn cael casgliad yn awtomatig a bydd DIM ANGEN trefnu casgliadau.

Bydd casgliadau ailgylchu wrth ymyl y ffordd yn dychwelyd yn ystod misoedd yr haf a bydd preswylwyr sydd wedi cofrestru yn derbyn casgliad yn awtomatig ac NID oes angen trefnu casgliadau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd, e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk, ffonio 01443 425001 neu ddilyn cyfrif Facebook/Twitter y Cyngor. 

Wedi ei bostio ar 09/10/23