Skip to main content

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

Parade

Dyma wahoddiad i bawb o bob cwr o Rondda Cynon Taf ddod at ei gilydd yng Ngwasanaeth a Gorymdaith Gwasanaeth Sul y Cofio Pontypridd, i dalu teyrnged i'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf dros eu gwlad. 

Bydd yr achlysur, sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd, yn cael ei gynnal ddydd Sul 12 Tachwedd ym Mharc Coffa Ynysangharad. Bydd gorymdaith trwy'r parc fydd yn cynnwys pobl o bob oed yn cynrychioli sefydliadau cymunedol a milwrol amrywiol. 

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 10.35am a bydd yn gorffen wrth y Gofeb Rhyfel lle caiff gwasanaeth ei gynnal dan arweiniad y Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd, am 11am. Mae'r gwasanaeth yn gyfle i bawb weddïo ac ymuno â dwy funud o dawelwch i fyfyrio a chofio’r rheiny a roddodd eu bywydau i wasanaethu dros eu gwlad.

Mae hefyd yn gyfle i'r Cyngor a'i gymunedau ailddatgan eu cefnogaeth i aelodau  Cymuned y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw. Mae gan Rondda Cynon Taf hanes balch o gefnogi'r Lluoedd Arfog, ac mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn mynd ati’n rhagweithiol ac yn sylweddol i ddatblygu amcanion y Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol i gefnogi ein Cymuned Lluoedd Arfog.  

Mae manylion Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys gwasanaeth cyngor i gyn-filwyr am ddim a Chronfa Grant y Cyfamod, i’w gweld yma.

Eleni, rydyn ni'n nodi canmlwyddiant ers i'r Is-Iarll Gadlywydd Allenby agor Parc Coffa Ynysangharad yn swyddogol. Mae'r parc, a gafodd ei agor er cof am y rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, wedi parhau i esblygu dros y ganrif a hyd heddiw mae'n cynnig lle i ni gofio am y rhai wnaeth roi eu bywydau dros ein gwlad dros y blynyddoedd dilynol.

Yn 2011, cafodd rhestr anrhydedd y parc ei dadorchuddio. Mae'n anrhydeddu'r unigolion o ardal Pontypridd a wnaeth yr aberth eithaf yn enw rhyddid.

Mae'r enwau sydd wedi'u rhestru ar y rhestr anrhydedd yn cynnwys 821 o bobl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 492 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd, chwe aelod o'r Gwarchodlu Cymreig a fu farw yn y Falklands a'r rhai a fu farw ar ddyletswydd ym Mhalestina, Korea a'r Suez.

Mae Rhestr y Gwroniaid y parc yn cael ei diweddaru'n barhaus. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae tri enw ychwanegol wedi'u hychwanegu ac mae enw wedi'i gywiro hefyd. Ar hyn o bryd, mae'r gofeb yn anrhydeddu cyfanswm o 1,322 o unigolion dewr.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog:

Dyma wahodd bob aelod o'r cyhoedd i dalu teyrnged yng Ngwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd. Er ei fod yn amser i fyfyrio a chofio, mae'r achlysur teimladwy yma hefyd yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a chefnogi ein gilydd. 

Mae Gwasanaethau ac Achlysuron coffa yn cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain yn cael eu trefnu gan gynghorau tref a grwpiau lleol. Mae gwybodaeth am y rhain yn eich ardal leol.

Wedi ei bostio ar 10/10/23